Stock, Aitken & Waterman

Triawd a ysgrifennai a recordiai ganeuon yn Lloegr oedd Stock, Aitken & Waterman. Weithiau, cawsant eu hadnabod fel SAW a cawsant lwyddiant mawr o ganol tan ddiwedd y 1980au ac ar ddechrau'r 1990au. Gellir ystyried y tri fel y partneriaeth cyfansoddi a chyrchu mwyaf llwyddiannus erioed, am iddynt gael dros 100 o ganeuon yn y Siart 40 Uchaf yn y Deyrnas Unedig gan werthu 40 miliwn o recordiau gan ennill £60 miliwn yn ôl rhai ffynonellau. Dechreuodd SAW trwy gynhyrchu caneuon egni-uchel (Hi-NRG) ar gyfer y sîn clybiau tanddaearol, ond daethant i'r brif ffrwd cerddorol pan gafodd y math yma o gerddoriaeth ei gymysgu gyda lyrics ysgafn a phoblogaidd. Yn ystod 1987-1989, cafodd eu math hwy o gerddoriaeth ei labeli'n "Eurobeat" yn Ewrop.

Stock, Aitken & Waterman
Enghraifft o'r canlynoltriawd, tîm o gynhyrchwyr recordiau, tîm o gyfansoddwyr caneuon Edit this on Wikidata
Daeth i ben1993 Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioPWL, Epic Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1984 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, pop dawns, Hi-NRG, synthpop, Eurobeat Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMike Stock, Matt Aitken, Pete Waterman Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pwl-empire.com/ Edit this on Wikidata

Roedd y bartneriaeth yn cynnwys Mike Stock, Matt Aitken a Pete Waterman.