Stripio

(Ailgyfeiriad o Stripar)

Stripio (neu "dinoethi") ydy'r weithred o dynnu neu ddiosg dillad o'r corff mewn modd erotig (striptîs).[1] Mae'r person sy'n gwneud hyn er diddanu yn cael ei galw'n "stripar" ac weithiau mae dawnsiwr polyn yn tynnu ei dillad i ffwrdd, ac felly'n gneud striptîs. Ar adegau arbennig mae pobl yn talu person (neu "strip-o-gram") i wneud hyn am hwyl, wedi ei gwisgo fel plismon, nyrs neu wisg ffantasi arall.

Stripio
Enghraifft o'r canlynolmath o ddawns, occupation group according to ISCO-08 Edit this on Wikidata
Matherotic dancing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Striptîs traddodiadol, UDA

Gelwir adeilad lle perfformir stripio yn glwb stripio (strip club) a cheir ar adegau stripio erotig mewn clybiau nos. Efallai mai'r clybiau stripio enwocaf, fodd bynnag yw'r Folies Bergère a sefydlwyd yn 1869 a'r Moulin Rouge a sefydlwyd gan Charles Zidler a Joseph Oller a hynny ger Montmartre ym Mharis. Yn ogystal i stripio ei hun, mae rhai lleoliadau stripio yn cynnig cabaret, canu a pherfformiadau amrywiol gan sioeferched.

Am flynyddoedd edrychwyd ar stripio erotig fel tabw ac roedd deddfau pwrpasol i'w atal mewn nifer o wledydd.

Hanes cynnar

golygu
 
Mata Hari, 1906

Mae'n bosibl mai yn Babilon y ceir y cyfeiriad cyntaf at stripio er pleser. Yng Ngwlad Groeg, sefydlodd Solon yn y 6g Cyn Crist sawl dosbarth gwahanol o buteiniaid gan gynnwys yr auletrides, sef dawnswyr benywaidd erotig.[2][3][4] Roedd gan y Rhufeiniaid hefyd ferched a ddawnsiai'n erotig, gan ddiosg eu dillad, ac a oedd yn rhan o'r adloniaint a elwir yn ludi yn y Floralia pob mis Ebrill.[5] Arferai'r Ymerodres Theodora yn y 6g stripio mewn dawns a oedd yn darlunio stori Leda a'r Alarch.[6] Ymddengys, felly fod stripio'n gwbwl dderbyniol gan gymdeithas ledled y byd hyd at ddyfodiad yr Eglwys Gristnogol yn y 7g ac ni cheir lawer o gyfeiriadaeth at y weithred hon yn y Canol Oesoedd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Richard Wortley (1976) A Pictorial History of Striptease: 11.
  2. Zaplin, Ruth (1998). Female offenders: critical perspectives and effective interventions. Jones & Bartlett Learning. t. 351. ISBN 978-0-8342-0895-7.
  3. Jeffreys, Sheila (2009). The industrial vagina: the political economy of the global sex trade. Taylor & Francis. tt. 86–106. ISBN 978-0-415-41233-9.
  4. Baasermann, Lugo (1968). The oldest profession: a history of prostitution. Stein and Day. tt. 7–9. ISBN 0-450-00234-9.
  5. As described by Ovid, Fasti 4.133ff.; Juvenal, Satire 6.250–251; Lactantius, Divine Institutes 20.6; Phyllis Culham, "Women in the Roman Republic," in The Cambridge Companion to the Roman Republic (Cambridge University Press, 2004), p. 144; Christopher H. Hallett, The Roman Nude: Heroic Portrait Statuary 200 B.C.–A.D. 300 (Oxford University Press, 2005), p. 84.
  6. Evans, James Allan (2003). The Empress Theodora: Partner of Justinian. University of Texas Press. t. 15. ISBN 978-0-292-70270-7.