Strwythur graddfa fawr y cosmos
Mewn cosmoleg ffisegol, mae'r term strwythur graddfa fawr y cosmos yn cyfeirio at y nodweddu o'r dosbarthiadau gweladwy o fater a golau ar y graddfeydd mwyaf posibl (fel rheol yn nhermau pellderau a maintioli a fesurir mewn biliynau o flynyddoedd golau). Mae arolygon o'r awyr a mapio'r amrywiol fandiau tonfeydd ymbelydredd electromagnetig (yn arbennig yn y band 21-cm) wedi ildio llawer o wybodaeth am gynnwys a nodweddion srwythur elfennol y bydysawd. Ymddengys fod trefn strwythur neu adeiladwaith y cosmos yn dilyn model hierarchiaethyddol gyda'r 'unedau' sylfaenol yn cynyddu mewn maint hyd at faint uwchglystyrau ac edafedd galaethau. Y tu hwnt i hynny, ymddengys na cheir strwythuro ar raddfa uwch, ffenomen y cyfeirir ati gan rai fel "Diwedd Maint".