Eglwys Gadeiriol Wrecsam
Cadeirlan Gatholig a leolir yn Stryt y Rhaglaw, Wrecsam, yw Eglwys Gadeiriol y Santes Fair.[1] Fe'i adeiladwyd ym 1857 fel eglwys plwyf a fel cofadail i wraig y diwydiannwr Richard Thompson. Mae beddrod Ellen Thompson, a fu farw ym 1854, i'w ganfod y tu fewn i'r adeilad. Edward Welby Pugin o'r ffỳrm Pugin & Pugin, ag arbenigai mewn eglwysi Catholig, oedd y pensaer; fe gynlluniodd yr eglwys mewn arddull Gothig adfywiedig, yn seiliedig ar adeiladau o'r 13g.[2] Dim ond 23 oed oedd Pugin pan gynlluniodd yr eglwys.[3] Ym marn yr hanesydd eglwysig Nigel Yates, dyma'r gadeirlan Gatholig orau yng Nghymru o ran ei phensaernïaeth.[4]
Math | eglwys gadeiriol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Stryt y Rhaglaw, Wrecsam |
Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 87 metr |
Cyfesurynnau | 53.0474°N 2.9986°W |
Cod post | LL11 1RB |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Ein Harglwyddes o'r Gofidion |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Wrecsam |
Roedd yr eglwys yn olynydd i gapel Catholig cyntaf Wrecsam, a sefydlwyd yn gudd gan Richard Thompson ym 1828, blwyddyn cyn y ddeddf a roddodd y rhyddid i addoli i Gatholigion.[1] Ym 1907 daeth eglwys y Santes Fair yn ddarpar-eglwys gadeiriol ar gyfer esgobaeth Catholig Mynyw.[2] Ym 1987 fe'i penodwyd yn eglwys gadeiriol a chanolfan i esgobaeth newydd Wrecsam.[5] Ym 1994 penodwyd yr eglwys a thŷ'r offeirad[6] yn adeiladau rhestredig Gradd II.[2] Oherwydd ymsuddiant a achoswyd gan fwyngloddio yn yr ardal, bu'n rhaid ail-adeiladu'r tŵr ddwywaith, y tro cyntaf yn yr 20g cynnar a'r eildro yn 2007.[7]
Yn y gadeirlan lleolir creirfa Rhisiart Gwyn, bardd Cymraeg Catholig a ferthyrwyd ar 15 Hydref 1584 ac a ganoneiddiwyd fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru ym 1970. Cynhelir dathliad a phererindod yn y gadeirlan yn flynyddol, ar y Sul agosaf at ddyddiad ei farwolaeth.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Eglwys Gadeiriol y Santes Fair. Taith Cerdded Tref Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Roman Catholic Cathedral of St Mary. Cadw. Adalwyd ar 4 Hydref 2024.
- ↑ (Saesneg) Cathedral Church of Our Lady of Sorrows, Wrexham. Gwydr Lliw yng Nghymru / Stained Glass in Wales. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ Wooding, Jonathan M. a Nigel Yates (gol.) (2011). A Guide to the Churches and Chapels of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 74
- ↑ Catholigiaeth yn Wrecsam. Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Adalwyd ar 23 Awst 2014.
- ↑ (Saesneg) Presbytery at roman Catholic Cathedral. Cadw. Adalwyd ar 4 Hydref 2024.
- ↑ 7.0 7.1 (Saesneg) +Wrexham – Cathedral Church of Our Lady of Sorrows. Taking Stock: Catholic Churches of England & Wales. Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Adalwyd ar 2 Tachwedd 2024.