Stryt yr Eglwys, Wrecsam
Strŷt hanesyddol yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyain Cymru, yw Stryt yr Eglwys (Saesneg: Church Street).
Stryt yr Eglwys - golygfa tuag at yr Eglwys San Silyn | |
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Canol Dinas Wrecsam |
Sir | Offa, Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.044853°N 2.993104°W |
Lleoliad
golyguLleolir Stryt yr Eglwys yng nghalon ganoloesol Wrecsam. Mae'r stryd yn cysylltu'r Stryt Fawr â mynwent Eglwys San Silyn. O flaen Eglwys San Silyn, mae Stryt yr Eglwys wedi'i chroesi gan Res y Deml, lôn gul sy'n rhedeg gyfagos â'r fynwent.
Hanes
golyguCofnodwyd yr enw Saesneg “Church Street” yn gyntaf yn 1692,[1] ond roedd y stryd yn sefyll yn rhan hynaf y dref. Yn ôl pob tebyg, mae rhif 8 Stryt yr Eglwys yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol. [2]
Roedd gan y stryd gymeriad masnachol – cafodd rhifau 3 a 4 eu hailddatblygu yn y 18fed ganrif fel siopau. [3] Yn 1896, adeiladwyd Banc Cynilion Ymddiriedolwyr, y “Trustee Savings Bank”, ar y gyffordd rhwng Stryt yr Eglwys a'r Stryt Fawr. [4] Heddiw, mae'r rhan fwyaf o adeiladau ar Stryt yr Eglwys yn cael ei defnyddio fel tafarndai, bwytai a chaffis.
Disgrifiad
golyguSaif Stryt yr Eglwys yng nghysgod clochdwr Eglwys San Silyn a gatiau'r fynwent a cheir golygfa drawiadol ar hyd Stryt yr Hôb tuag at y clochdwr.
Ac eithrio'r giatiau haearn gyr addurnedig sy'n ffurfio'r fynedfa i fynwent San Silyn, mae nifer o adeiladau hanesyddol sy'n sefyll o hyd ar Stryt yr Eglwys.
Mae rhif 3 Stryt yr Eglwys (mewn gwirionedd dau adeilad, rhifau 3 a 4) yn adeilad rhestredig gradd II[3] ac mae rhif 8 (mewn gwirioinedd rhifau 8, 9 a 10) yn adeilad gradd II*.[2]
Mae adeilad rhestredig gradd II arall yn sefyll ar y gyffordd rhwng Stryt yr Eglwys a'r Stryt Fawr – hen Fanc Cynilion Ymddiriedolwyr, adeilad o flociau tywodfaen nadd.[4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Church Street, Wrexham 1928". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-29. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "8, Church Street, Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "3, Church Street, Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
- ↑ 4.0 4.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
- ↑ "Trustee Savings Bank, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
Oriel
golygu-
Giatiau mynwent San Silyn
-
Stryt yr Eglwys - golygfa gydag adeilad ar ochr ddwyreiniol y stryd