Afon Styx

(Ailgyfeiriad o Styx)

Afon ym Mytholeg Roeg oedd afon Styx (Groeg: Στύξ). Ffurfiai'r ffîn rhwng byd y byw a Hades. Dywedid ei bod yn amgylchynu Hades naw gwaith, a bod y Styx ac afonydd Phlegethon, Acheron a Cocytus yn cyfarfod ynghanol Hades, mewn cors enfawr.

Charon yn croesi Afon Styx yn ei gwch fferi (llun gan Gustav Doré)

Byddai ysbrydion y meirwon yn cael eu cario ar draws y styx i Hades gan Charon yn ei gwch. Byddent yn talu obol (obolus) iddo am ei wasanaeth. Ni chaniateid i'r rhai nad oeddynt wedi derbyn gwasanaeth angladd groesi yn ei gwch ac fe'u gorfodid i dreulio can mlynedd yn aros ar lan yr afon yn gyntaf. Pe bai bod meidrol byw yn troi i fyny ar lan Afon Styx i'w chroesi disgwylid iddo ddangos i Charon y Gangen Euraidd yr oedd wedi derbyn gan y Sibyl; carcharwyd Charon am flwyddyn unwaith gan y duwiau am iddo gludo'r arwr Ercwlff (Herakles / Hercules) drosodd heb arwydd y Sibyl. Mewn fersiwn arall, Phlegyas oedd yn gwarchod yr afon.

Yn ôl un chwedl, roedd yr arwr Achilles, pan oedd yn faban, wedi ei ymdrochi yn afon Styx gan ei fam Thetis, fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo.