Suidlanders

mudiad amddiffyn ethnig gwyn De Affrica

Mae'r Suidlanders (Afrikaans am "Deheuwyr" "South Landers") yn fudiad yn Ne Affrica sy'n rhagweld chwyldro neu derfysg a dymchweliad strwythurau wlad ac yn paratoi cynlluniau ar gyfer i'r Afrikaaners ffoi o'r dinasoedd mawrion.[1][2]

'N Druppel ("y diferyn"), logo'r Suidlanders

Mae'n ystyried ei hun yn fudiad hunan-amddiffyn yn 2006. Arweinir y mudiad gan Gustav Müller.[3]

Athroniaeth golygu

Gellir ei ystyried fel mudiad 'survivalist' ethnig. Seilir ei heidioleg ar proffwydolaethau y Boer, 'Siener' ("gweledydd", "proffwyd") van Rensburg. (3 Awst 1864 – 11 Mawrth 192)[4][5] Cred nifer i Rensburg broffwydo y byddai llywodraeth Ddu yn cymryd yr awennau yn Ne Affrica ac y bydd y bobl Afrikaaner Gwyn yn diodde'n fawr o dan y llywodraeth yma. Credant hefyd y bydd yna frwydr dynegfennol olaf a bod angen i'r gymuned Gwyn ei chroen baratoi ar ei chyfer.

Cyfiawnhâd ryngwladol golygu

Mae'r Suidlanders yn honni bod ganddynt hawl yn ôl cyfraith ryngwladol, yn arbennig Protocol I a II (dyddiad, 8 Mehefin 1977) yn ogystal â Confensiwn Genefa (12 Awst 1949) i'w cynlluniau. Mae Protocol I yn ymwneud ag amddifyn dioddefwyr gwrthdaro arfog ryngwladol a Protocol II yn ymwneud ag amddiffyn dioddefwyr gwrthdaro an-ryngwladol. Rhoddir pwyslais ar Erthyglau 60 i 69 o Protocol I (parthau dad-filwrol ac amddiffyn sifil).[3]

Cynllunio golygu

Mae'r mudiad yn ymgymryd mewn ymarferiadau amddiffyn sifil i'w haelodau. Mae'r hyfforddi yn cynnwys; cymorth cyntaf, Training on all aspects of civil defense is provided to members. The training varies from first aid, logisteg, cyfathrebu a rheoli ffoaduriaid (croen-wyn). Maent hefyd yn hysbysu eu haelodau o ddigwyddiadau a phrotestiadau gan baratoi cynlluniau ar gyfer mudo eu haelodau allan o ardaloedd tymhestlog.

Sylw rynglwadol golygu

Cafwyd rhan mewn pennod o gyfres ddogfen, Dark Tourist ar sianel ffrydio Netflix yn cyfres 1 Pennod 7 20 Gorffennaf 2018 oedd yn cyfweld a dangos gwaith y Suidlanders.[6] Bu hefyd eitem newyddion am y mudiad ar sianel newyddion CNN.[7]

Cafwyd hefyd sylw i'r mudiad gan llefaryddion asgell dde megis Katie Hopkins.

Cyfeiriadau golygu

  1. Staff (25 Oktober 2013). "S. Africa evacuation plan: White Afrikaner group fears genocide upon Mandela's death". RT. Check date values in: |date= (help)
  2. Schneider, Victoria (7 November 2013). "Is the white-right in South Africa a threat?". Al Jazeera.
  3. 3.0 3.1 Suidlanders (2015). Suidlanders Manual in English. Freely available upon request navrae@suidlanders.co.za: Suidlanders. t. 13.
  4. WW3: Germans, Boers, Race War, Suidlanders, Simon Roche, Siener Van Rensburg & Adriaan Synman, http://archive.org/details/Ww3GermansBoersSuidlandersSimonRoche1, adalwyd 2018-08-24
  5. Weiner, Sophie. "Trump Thrills White Nationalists With Tweet About South African Farms". Splinter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-24.
  6. https://www.timeslive.co.za/news/south-africa/2018-08-28-netflix-show-features-white-afrikaner-group-preparing-for-revolution/
  7. http://edition.cnn.com/interactive/2018/11/africa/south-africa-suidlanders-intl/

Dolenni allanol golygu