Teigr
Teigr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Felidae |
Genws: | Panthera |
Rhywogaeth: | P. tigris |
Enw deuenwol | |
Panthera tigris (Linnaeus, 1758) |
Mamal yn perthyn i'r teulu Felidae (cathod) yw teigr. Cigysydd yw'r teigr ac mae ganddo grafangau a dannedd miniog. Mae'n un o bedwar rhywogaeth yn y genws Panthera. Y mwyaf cyffredin o'r is-rywogaethau yw Teigr Bengal.
Ystyrir y Teigr yn rhywogaeth mewn perygl, oherwydd hela a dinistrio fforestydd. Defnyddir rhannau o'r teigr mewn moddion Sineaidd traddodiadol.
Is-rywogaethau
golygu- Teigr Indo-Tsieina (Panthera tigris corbetti) - Cambodia, Laos, Fietnam, Maleisia, Myanmar, Tsieina a Gwlad Tai
- Teigr Bengal (Panthera tigris tigris) - Bangladesh, Bhutan, India, Nepal a Tsieina
- Teigr De China (Panthera tigris amoyensis) - canolbarth a gorllewin Tsieina
- Teigr Siberia (Panthera tigris altaica) - a elwir weithiau Teigr Amur; Tsieina, Gogledd Corea, dwyrain Rwsia
- Teigr Sumatera (Panthera tigris sumatrae) - ar ynys Sumatera yn unig
- Teigr Malaya (Panthera tigris jacksoni) - ar orynys Malaya