Drama Gymraeg yw Sundance gan Aled Jones Williams.[1]

Crynodeb o'r ddrama golygu

Mae'r ddrama'n ymwneud ag ymgais llanc ifanc i anghofio magwraeth boenus a dryslyd trwy ymgolli mewn ffilmiau cowboi.[2]

Perfformiadau golygu

Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1999 gan Cwmni Theatr Bara Caws. Cyfarwyddwyd gan Ian Rowlands a’r actor oedd Jonathan Nefydd.[1] Llwyfannwyd y ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005, ac aeth cynhyrchiad o'r ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru ar daith yn 2006.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
  2. 2.0 2.1  Sundance ar daithː Cowbois yn y meddwl. Adolygiadau Theatr ar wefan BBC Cymru. Adalwyd ar 09 Rhagfyr, 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.