Swprematiaeth
(Ailgyfeiriad o Suprematism)
Mudiad celf o ddechrau'r 20g yw Swprematiaeth[1] (Rwseg: супрематизм, Saesneg: Suprematism) sydd yn canolbwyntio ar ffurfiau geometrig sylfaenol, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau, wedi'u paentio mewn ystod gyfyngedig o liwiau.
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1913 |
Genre | celf haniaethol |
Sylfaenydd | Kazimir Malevich |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i sefydlwyd gan Kazimir Malevich yn Rwsia, tua 1913, ac chynhaliwyd arddangosfa yn St. Petersburg ym 1915, lle dangoswyd gwaith Malevich ac 13 o artistiaid eraill gyda gwaith mewn arddull debyg.
Mae'r term "swprematiaeth" yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.
Rhestr Swprematyddion
golygu- Kazimir Malevich
- El Lissitzky
- Ilya Chashnik
- Lazar Khidekel
- Alexandra Exter
- Lyubov Popova
- Sergei Senkin
Oriel
golygu-
Kazimir Malevich, Sgwâr Du, tua.1923
-
Kazimir Malevich, Cylch Du, 1915,
-
Kazimir Malevich, Sgwâr Goch: Realaeth ddarluniol o ferch werinol mewn dau ddimensiwn, 1915.
-
Kazimir Malevich, Cyfansoddiad Swprematyddol, 1916
-
Kazimir Malevich, Darlun Swprematyddol: Wyth Hirsgwar Coch, 1915
-
Kazimir Malevich, Suprematism, 1916
-
Kazimir Malevich, Swprematiaeth, 1921-1927
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "Suprematism".
- Andrei Nakov Kasimir Malevich, Catalogue raisonné, Paris, Adam Biro, 2002
- Andrei Nakov vol. IV of Kasimir Malevich, le peintre absolu, Paris, Thalia Édition, 2007