Peintiwr a damcaniaethwr celf o Rwsia oedd Kazimir Severinovich Malevich (Rwsieg: Казими́р Севери́нович Мале́вич; 23 Chwefror 187915 Mai 1935). Roedd yn artist avant-garde, arloeswr celf haniaethol a phrif sylfaenydd y mudiad celfyddydol Swprematiaeth yn seiliedig ar ffurfiau geometrig, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau wedi'u peintio mewn dewis cyfyngedig o liwiau.[1][2]

Kazimir Malevich
GanwydКазиміръ Малевичъ Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1879 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kyiv Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 1935 Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, athro, cynllunydd llwyfan, dylunydd gwisgoedd, drafftsmon, damcaniaethwr celf, cynllunydd, artist, hanesydd celf, addysgwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Vitebsk People's Art School Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBlack Square, Suprematist Composition, Suprematist Composition: White on White, An Englishman in Moscow, The Knife Grinder Edit this on Wikidata
Arddullscenography, paentio, celf haniaethol, bywyd llonydd, celf ffigurol Edit this on Wikidata
MudiadSwprematiaeth, Russian avant-garde, Adeileddiaeth Edit this on Wikidata
PriodKazimiera Sgleitz, Sofia Rafalovich Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Fe ganwyd Kazimir Malevich yn Kazimierz Malewicz i deulu Pwylaidd a oedd wedi symud i fyw yn agos i Kyiv (pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia; yn Wcráin heddiw) ar ôl ymraniad Gwlad Pwyl.

Swprematiaeth golygu

 
Cyfansoddiad Swprematyddol, 1915

Yn 1915 fe osododd Malevich sylfaeni Swprematiaeth pan gyhoeddodd ei maniffesto O Giwbiaeth i Swprematiaeth. Yn 1915-1916 gweithiodd gydag arlunwyr Swprematyddol eraill mewn prosiect cydweithredol, gwerinol ym mhentrefi Skoptsi a Verbovka. Yn 1916-1917 cymerodd ran yn yr arddangosfa 'Jac o Ddiemyntau' ym Moscow gyda Nathan Altman, David Burliuk, Aleksandra Ekster ac eraill.

Mae enghreifftiau enwog o'i waith Swprematyddol yn cynnwys y Sgwâr Du' (1915) a Gwyn ar Wyn (1918).

Mae'r term "Swprematiaeth" yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.

Wedi Chwyldro Rwsia golygu

Yn dilyn Chwyldro Rwsia (1917), fe ddaeth Malevich yn aelod o Goleg Gelf Narkompros, a Chomisiynwr y Pwyllgor Gwarchod Cofebion ac Amgueddfeydd. Dysgodd yn Ysgol Gelf Ymarferol Vitebsk yn yr Undeb Sofietaidd (yn awr yn Belarws) (1919–1922), Academi Celf Leningrad (1922–1927), a Sefydliad Celf Kiev (1927–1929), ac Ysgol Gelf Leningrad (1930).

Ysgrifennodd ei lyfr Y Byd Fel Di-wrthrychaeth, a gyhoeddwyd ym München ym 1926. Ynddo mae Malevich yn amlinellu syniadaeth 'Swprematiaeth'.

Yn 1923 fe benodwyd Malevich yn gyfarwyddwr yn Sefydliad Diwylliant Celfyddydol Petrograd, a gafodd ei orfodi i gau ym 1926 ar ôl i bapur newydd Comiwnyddol ei alw yn "fynachdy dan nawdd y llywodraeth yn llawn pregethu meddwol gwrth-chwyldroadol."

Roedd y system Stalinaidd yn dechrau troi i hyrwyddo celfyddyd propaganda Realaeth fel yr unig ffuf celfyddydol derbynniol.

 
Sais ym Moscow, 1914

Cydnabyddiaeth rhyngwladol a gwaharddiad golygu

Ym 1927 fe deithiodd Malevich i Warsaw lle derbyniodd groeso brwd. Yno cyfarfu ag arlunwyr a'i gyn-fyfyrwyr Władysław Strzemiński a Katarzyna Kobro, oedd yn creu gwaith wedi'i ddylanwadu gan Malevich yn eu mudiad eu hun sef Unism.

Fe aeth Malevich ymlaen i Berlin a München i arddangos ei waith gan dderbyn sylw rhyngwladol. Fe adawodd lawer o waith ar ôl pan ddychwelodd i'r Undeb Sofietaidd. Roedd Malevich yn rhagweld y byddai agweddai'r awdurdodau tuag at gelf fodern yn newid yn dilyn marwolaeth Lenin. Fe ddechreuodd llywodraeth Stalin rwystro celf haniaethol, gan ei hystyried yn bourgeois. Cafodd llawr o'i waith ei gipio ac fe waharddwyd rhag creu rhagor.

Marwolaeth golygu

Bu farw Malevich o ganser yn Leningrad ar 15 Mai 1935. Arddangoswyd y 'Sgwâr Du' uwchben ei wely angau, ac roedd galarwyr yn gallu chwifio baner yn dangos y 'Sgwâr Du'. Fe gladdwyd o dan dderwen wrth ymyl Nemchinovka.[3]

Marchnad gelf golygu

Ar 3 Tachwedd 2008 fe dorrwyd y record am bris uchaf a dalwyd am ddarn o gelf Rwsiaidd pan werthwyd un o weithiau Malevich, Cyfansoddiad Swprematyddol am US$60 miliwn yn Sotherby's, Efrog Newydd.

Mewn diwylliant poblogaidd golygu

Mae Malevich a'i waith yn ysbrydoli llawer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd.

  • Mae'r nofel boblogaidd Red Square gan Martin Cruz yn ymwneud â smyglo darlun Malevich o Rwsia
  • Mae'r nofel The Art Thief gan Noah Charney yn hanes dwyn gwaith Malevich ac yn trafod effaith gwaith radicalaidd Malevich ar y byd celf.
  • Mae gwaith Malevich hefyd yn amlwg yn ffilm Lars Von Trier Melancholia, 2011.
  • Mae'r grŵp roc-diwydiannol Slofenaidd Laibach wedi defnyddio'r “Sgwâr Du” yn eu logo a phosteri.
  • Defnyddiodd label recordiau Cymraeg Recordiau Ankst logo a chefndir i'w wefan a ddylanwadwyd gan Malevich.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "A Dictionary of Twentieth-Century Art". Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2014-03-18.
  2. "The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition". Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2014-03-18.
  3. "Malevich’s Burial Site Is Found, Underneath Housing Development", New York Times, 30 Awst 2013

Llyfryddiaeth golygu

  • Kasimir Malevich, The Non-objective World, cyf. Howard Dearstyne (Chicago: Paul Theobald, 1959)
  • John Milner, Kazimir Malevich and the Art of Geometry (New Haven: Yale University Press, 1996)
  • Andrei Nakov, Kasimir Malevich, Catalogue raisonné (Paris: Adam Biro, 2002)
  • Matthew Drutt, Kazimir Malevich: Suprematism (Efrog Newydd: Guggenheim Museum, 2003)
  • Gilles Néret, Kazimir Malevich and Suprematism 1878-1935 (Taschen, 2003)
  • Andrei Nakov, Kasimir Malevich, le peintre absolu (Paris: Thalia Édition, 2007)
  • Aleksandra S. Shatskikh a Marian Schwartz, Black Square: Malevich and the Origin of Suprematism (New Haven: Yale University Press, 2012)

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: