Surop brown tywyll yw surop heiddfrag a wneir drwy fragu grawn haidd, eu malu, eu mwydo i dynnu'r siwgr, ac yna berwi'r dŵr mwydo i greu'r surop tewychedig. Mae'n felys â blas brag sy'n boblogaidd wrth rhoi blas ac ansawdd llaith wrth bobi bara, teisenni, a phwdinau. Hefyd fe'i gymysgir ag ysgytlaethau a diodydd poeth.[1]

Ychwanegu surop heiddfrag at flawd i wneud cymysgedd bagelau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 411.