Susan Fletcher (awdur o Birmingham)

(Ailgyfeiriad o Susan Fletcher)

Nofelydd o Loegr yw Susan Fletcher (ganwyd 1979).[1][2][3][4]

Susan Fletcher
Ganwyd1979 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Prifysgol Efrog
  • Prifysgol Dwyrain Anglia Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, llenor Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Birmingham yn 1979. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog (BA mewn Saesneg) a Phrifysgol Dwyrain Anglia (MA mewn Ysgrifennu Creadigol).

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Eve Green, yn 2004 gan Four Estate, argraffnod o HarperCollins. Mae'n cynnwys hanes merch wyth oed sy'n cael ei hanfon i fywyd newydd yng nghefn gwlad Cymru. Disgrifir Cymru fel lle lle mae blodau'n ymddangos yn rhyfedd ar drothwy'r drws a lle mae pobl yn edrych arni ddwywaith. Gyda theimlad fod pobl yn dweud celwydd wrthi, mae'n ceisio darganfod cyfrinach dywyll ei theulu - heb wybod bod mwy eto o dywyllwch i ddod gyda diflaniad sinistr y ferch leol Rosemary Hughes. Enillodd y nofel Wobr Whitbread First First 2004, gwobr Clwb yr Awduron a Gwobr Betty Trask; cafodd ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfrau'r LA Times ac fe'i dewiswyd ar gyfer rhestr Ddarllen Haf Richard a Judy Channel 4.

Mae ei nofelau dilynol wedi cyrraedd rhestr fer gwobr John Llewellyn Rhys, gwobr ffuglen Urdd yr Awduron a gwobr Nofel Rhamantaidd y Flwyddyn. Enillodd ei nofel Witch Light wobr St Maur en Poche 2013 yn Ffrainc.[5]

Virago, argraffnod o Little, Brown Book Group yw cyhoeddwr Fletcher, bellach. Mae hefyd wedi gweithio fel Cymrawd o'r Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Caerwrangon (2016–18). Rhyddhawyd ei seithfed nofel, House of Glass, yn Nhachwedd 2018.

Cyhoeddwyd ei hail nofel, Oystercatchers, yn 2007, a'i thrydydd, Corrag, yn 2010. Cafodd Corrag ei rhoi ar restr fer Gwobr Goffa John Llewellyn-Rhys 2010 ac mae'n adrodd hanes Corrag, a garcharwyd fel gwrach ym 1692. Cyhoeddwyd The Silver Dark Sea (2012) a A Little in Love (2014), ei nofel cyntaf i arddegwyr, a ysbrydolwyd gan y clasur Les Misérables gan Victor Hugo.

Gweithiau

golygu
(Hyd at Gorffennaf 2019)
  • Eve Green (2004)
  • Oystercatchers (2007)
  • Corrag (2010); a gyhoeddwyd hefyd dan y teitl Witch Light a The Highland Witch yn America
  • The Silver Dark Sea (2012)
  • A Little in Love (2014)
  • Let Me Tell You About a Man I Knew (2016)
  • House of Glass (November 2018)

Anrhydeddau

golygu


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Susan Fletcher". "Susan Fletcher".
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  5. Y Cyngor Prydeinig; adalwyd 11 Gorffennaf 2019.