Sussex
Sir hanesyddol yn ne-ddwyrain Lloegr yw Sussex. Daw'r enw o'r Hen Saesneg Sūþsēaxe ("Sacsoniaid Deheuol"), ac mae ardal y sir hanesyddol yn cyfateb yn fras i ardal hynafol Teyrnas Sussex a sefydlwyd gan Ælle o Sussex yn 477 CC, a daeth yn rhan o deyrnas Wessex yn 825, a teyrnas Lloegr yn ddiweddarach.
Math | siroedd hanesyddol Lloegr |
---|---|
Ardal weinyddol | De-ddwyrain Lloegr |
Poblogaeth | 1,613,316 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 3,783 km² |
Yn ffinio gyda | Caint, Surrey, Hampshire |
Cyfesurynnau | 50.947103°N 0.141373°W |
Daearyddiaeth
golyguCaiff ei ffinio i'r gogledd gan Surrey, i'r dwyrain gan Gaint, i'r de gan y Môr Udd, ac i'r gorllewin gan Hampshire. Caiff ei rannu yn dri ardal llywodraeth leol, sef wedi ei rannu yng Ngorllewin Sussex, Dwyrain Sussex a dinas Brighton a Hove. Crëwyd dinas Brighton & Hove yn awdurdod unedol ym 1997; a derbyniodd statws dinas yn 2000. Tan hynny, Chichester oedd unig ddinas Sussex.
Caiff Sussex ei rannu'n dair prif is-ranbarth daearyddol. Yn y de-orllewin mae cwastad arfordirol ffrwythlon gyda phoblogaeth dwys. Mae bryniau sialc y Twyni Deheuol yn rhollio i'r gogledd o hyn, a thu hwnt i'r bryniau ceir ardal goedwigol Sussex Weald.
Hanes
golyguMae'r ardal y sir hanesyddol yn cyfateb yn fras i ardal hynafol Teyrnas Sussex a sefydlwyd gan Ælle o Sussex yn 477 CC, a daeth yn rhan o deyrnas Wessex yn 825, a teyrnas Lloegr yn ddiweddarach.
Aiff hanes y sir yn ôl ymhellach, gyda Boxgrove, Sussex yn lleoliad nifer o ddarganfyddiadau cynharaf hominid Ewrop. Mae hefyd wedi bod yn safle allweddol ar gyfer o ymosodiadau ar yr ynys, megis Goresgyniad Prydain y Rhufeiniaid a Brwydr Hastings.
Parhawyd i ddefnyddio Sussex fel sir seremonïol hyd 1974, pan benodwyd Arglwydd Raglaw ar gyfer Gollewin a Dwyrain Sussex, yn hytrach nag un Arglwydd Raglaw Sussex. Er y rhaniadau llywodraethol a ddilynodd, mae Sussex gyfan wedi parhau i fod â llu heddlu unedig ers 1968.