Suzy Lishman
Patholegydd yw Dr Suzy Lishman a Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr.[1]
Suzy Lishman | |
---|---|
Ganwyd | 1960s |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | patholegydd |
Gwobr/au | Kohn Award, CBE |
Yn ferch ifanc, rhoddodd ei bryd ar fod yn falerina.[2]
Gyrfa
golyguAddysgwyd Suzy Lishman yng Ngholeg Girton, Caergrawn ac wedi iddi raddio mewn meddygaeth arbenigodd mewn histopatholeg. Bu'n swyddog gyda Coleg Brenhinol y Patholegwyr ers 2005 a chododd broffil ei phwnc gryn dipyn drwy gyflwyno ymgyrchoedd cyhoeddus fel yr 'Wythnos Patholeg Genedlaethol'. Elusen yw'r coleg, gyda dros 10,000 o aelodau: y rhan fwyaf yn feddygon a gwyddonwyr sy'n gweithio mewn ysbytai a phrifysgolion ledled gwledydd Prydain.[3] Cydweithiodd gyda'r Amgueddfa Wyddonol yn Llundain, y Gymdeithas Frenhinol a Gŵyl Wyddonol Cheltenham. Yn 2014 fe'i phenodwyd yn Llywydd Coleg Brenhinol y Patholegwyr - dim ond yr ail ferch erioed i ymgymryd â'r swydd.[1][4]
Ymarfer clinigol
golyguMae Lishman yn Gonsyltant yn Ysbyty Dinas Peterboroughm lle mae'n bennaeth yr adran batholeg mewn sgrinio cansar y coluddion.[angen ffynhonnell]
Llwyddiannau
golyguEnwebwyd Lishman yn un o 50 o ferched dylanwadol o fewn gofal iechyd, a disgrifiwyd hi yn yr Health Service Journal fel 'wyneb cyhoeddus patholeg'.[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Royal College of Pathologists".
- ↑ bmj.com; adalwyd Ebrill 2016
- ↑ "i love pathology".
- ↑ "Royal College of Pathologists Dr Suzy Lishman". Cyrchwyd 14 Mai 2015.