Svetla Vassileva
Awdures o Fwlgaria yw Svetla Vassileva (neu weithiau Vasileva, Bwlgareg: Светла Василеваganwyd; ganwyd 1 Ebrill 1964). Ei gwaith beunyddiol yw rhoi cyhoeddusrwydd i gwmni, fel cyhoedduswr (publicist) drwy flogio ayb.
Svetla Vassileva | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1964 Pleven |
Dinasyddiaeth | Bwlgaria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur |
Fe'i ganed yn Pleven yng ngogledd Bwlgaria ar ddiwrnod Ffŵl Ebrill, 1964. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Herzen a Sefydliad Ymchwil Gwyddonol Sofia yn y brifddinas.[1][2][3] Mae Vassileva yn gyd-sylfaenydd sawl cymdeithas ddi-elw.
Gwaith academaidd
golyguYsgrifennodd draethawd hir ar "Gynnwys plant cyn-ysgol a gwerthoedd moesol cyffredinol." Vassileva yw cyd-awdur "Y cysyniad ar gyfer datblygu addysg cyn-ysgol gyhoeddus ym Mwlgaria", "Cysyniad ar gyfer cymdeithasu plant Romani dan anfantais gymdeithasol" (dan nawdd UNICEF), "Papur Gwyn ar Pravets" (2010) a'r llyfr Pravets. Cronicl y ddinas breifat (2011). Tref yng nghanol Bwlgaria yw Pravets.
Mae hi'n awdur dwsinau o erthyglau ar faterion cyfoes bywyd cyhoeddus yn y cyfnod o gyfnewid, pan drodd Bwlgaria i ddemocratiaeth a chyfalafiaeth; cyhoeddwyd yr erthyglau hyn yn y cyfryngau ac mewn print mewn Bwlgareg ac ar gyfryngau cymdeithasol mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys cyhoeddiadau'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal â'i blog personol.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Koleva, Irina. Koncepcija za socializacija na deca ot romski proischod v neravnostojno socialno položenie : v uslovijata na detskata gradina [Concept socialization of Roma children in socially disadvantaged], S., 1994, ISBN 954-8525-02-X, co-author
- Tsvetkov, Pavlin; Vasileva, Svetla; Nikolova, Proletina (2011). Правец. Хрониките на частния град [Pravets. Chronicles of the private city] (yn Bwlgareg). Сдружение за насърчаване на гражданска активност. ISBN 978-954-92718-1-2.
Anrhydeddau
golyguDerbyniodd y "Golden Key" ar gyfer 2014 yng nghategori "newyddiaduraeth" y Rhaglen Mynediad at Wybodaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15104819m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb15104819m. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Radio otzvuk
- ↑ "Lukoil Bulgaria and a climate of fear in Pravets". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 2012-03-07. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help)