Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (Saesneg: Welsh European Funding Office) sy'n rheoli darpariaeth rhaglenni Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Mae'n rhan o'r Adran dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Lleolir ei phencadlys ym Merthyr Tudful.

Mae'r Swyddfa yn gyfrifol am reoli darpariaeth sawl prosiect, e.e. y Rhaglen Amcan 1. Erbyn Mawrth 2008 roedd 2937 o brosiectau wedi cael cymeradwyaeth gyda chyfanswm o £1,615,108,110 (€2,422,662,165).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "SCEC: Prosiectau Cymeradwy (2000-2006)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-31. Cyrchwyd 2009-05-29.

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.