Symonds Yat
Pentref yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Symonds Yat. Saif ar lan Afon Gwy, gerllaw'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.848°N 2.643°W |
Cod OS | SO558168 |
Cod post | HR9 |
Heblaw Symonds Yat West ar ochr Swydd Henffordd yr afon, ceir Symonds Yat East ar ochr Swydd Gaerloyw, gyda fferi sy'n cael ei thynnu dros yr afon ar raff yn eu cysylltu. Mae Symonds Yat yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr, oherwydd yr olygfa o Graig Symonds Yat, 120 medr o ucher, ar ochr Swydd Gaerloyw. Heblaw y golygfeydd o'r dyffryn, lle mae'r afon wedi torri hafn ddofn yn y garreg galch Garbonifferaidd, gellir gweld pâr o'r Hebog tramor sy'n nythu yn rheolaidd ar y graig. Mae canwïo yn boblogaidd yma hefyd.