Syndrom gostwng lefelau alcohol
Syndrom gostwng lefelau alcohol yw cyfres o symptomau a all daro rhywun wrth iddynt ostwng ei lefelau o mewnlif alcohol yn sylweddol, wedi cyfnod o yfed gormodol. Mae symptomau fel arfer yn cynnwys gor-bryder, siglogrwydd, chwysu, chwydu, curiad calon gyflym, a thwymyn gymedrol. Gall symptomau mwy difrifol gynnwys trawiadau, gweld neu glywed pethau nad yw eraill yn medru, a deliriwm tremens (DTs).[1] Fel arfer y mae'r symptomau'n cychwyn oddeutu chwe awr ar ôl y ddiod olaf, ar ei waethaf o 24 i 72 awr wedi'r ddiod, ac yn gwella ymhen saith diwrnod.[2]
Math o gyfrwng | symptom neu arwydd |
---|---|
Math | alcohol-induced mental disorder, withdrawal symptom |
Efallai y bydd symptomau'n taro'r rheini sy'n gaeth i alcohol. Achosir y rhain gan ostyngiad mewnlifiad alcohol cynlluniedig neu anghynlluniedig. Mae'r mecanwaith sylfaenol yn arwain at ostyngiad yn ymatebolrwydd derbynyddion GABA yn yr ymennydd. Yn nodweddiadol, dilynir y broses ostyngol gan Asesiad y Sefydliad Clinigol o Ostyngiad mewn Lefelau Alcohol, diwygiedig (CIWA-Ar).[3]
Ymhlith y triniaethau nodweddiadol ar gyfer syndrom gostwng lefelau alcohol y mae benzodiazepines megis clordiazepoxide neu diazepam. Yn aml, caiff maint y dos ei selio ar natur symptomau'r dioddefwr. Argymhellir Thiamine yn bur aml hefyd. Rhaid trin problemau electrolyte a siwgr gwaed isel hefyd. Os rhoddir triniaeth gynnar, ceir canlyniadau llawer gwell.
Mae tua 15% o boblogaeth y Gorllewin yn cael problemau gydag alcoholiaeth rywbryd yn ystod eu hoes. Bydd tua hanner y canran hynny'n datblygu symptomau syndrom gostwng lefelau alcohol, gyda 4% yn dioddef symptomau difrifol. Ymhlith y rheini â symptomau difrifol mae hyd at 15% yn marw o'r cyflwr. Disgrifiwyd symptomau lleihau lefelau alcohol mor gynnar â 400 CC gan Hippocrates.[4] It is not believed to have become a widespread problem until the 1800s.[4] Ni chredir iddo fod yn broblem eang hyd y 1800au.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ National Clinical Guideline Centre (2010). "2 Acute Alcohol Withdrawal". Alcohol Use Disorders: Diagnosis and Clinical Management of Alcohol-Related Physical Complications (yn Saesneg) (arg. No. 100). London: Royal College of Physicians (UK). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 January 2014. Cyrchwyd 21 October 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Simpson, SA; Wilson, MP; Nordstrom, K (September 2016). "Psychiatric Emergencies for Clinicians: Emergency Department Management of Alcohol Withdrawal.". The Journal of emergency medicine 51 (3): 269–73. doi:10.1016/j.jemermed.2016.03.027. PMID 27319379.
- ↑ Schuckit, MA (27 November 2014). "Recognition and management of withdrawal delirium (delirium tremens).". The New England Journal of Medicine 371 (22): 2109–13. doi:10.1056/NEJMra1407298. PMID 25427113. https://archive.org/details/sim_new-england-journal-of-medicine_2014-11-27_371_22/page/2109.
- ↑ 4.0 4.1 Kissin, Benjamin; Begleiter, Henri (2013). The Biology of Alcoholism: Volume 3: Clinical Pathology (yn Saesneg). Springer Science & Business Media. t. 192. ISBN 9781468429374. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-22. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)