Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig
Roedd Syr Hugh Owen Owen, ail farwnig (ganwyd yn Hugh Owen Lord) (25 Rhagfyr 1803 – 5 Medi 1891) yn dirfeddiannwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro ar ddau achlysur rhwng 1826 a 1838 a rhwng 1861 a 1868 [1]
Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1803, 1803 |
Bu farw | 5 Medi 1891 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Syr John Owen, Barwnig 1af |
Mam | Charlotte Phillips |
Priod | Angelina Maria Cecilia Morgan, Henrietta Fraser Rodney |
Plant | Sir Hugh Charles Owen, 3rd Bt., John Owen, Arthur Rodney Owen, William Owen, Alice Henrietta Rodney Owen, Ellen Rodney Owen, Edith Rodney Owen, George Rodney Owen |
Bywyd personol
golyguRoedd Owen yn fab i Syr John Owen, Barwnig 1af, a Charlotte merch y Parch John Lewes Philips. Pan fu farw cefnder Syr John, Syr Hugh Owen, 6ed Barwnig Orielton, heb etifedd aeth ei ystâd i John Lord a newidiodd cyfenw ei deulu i Owen o dan delerau'r ewyllys.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen
Ym 1825 priododd Angelina Cecilia merch Syr Charles Morgan, Tŷ Tredegar, Casnewydd; bu iddynt pum mab a phedair merch. Wedi marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1844 priododd Henrietta Fraser merch yr Anrhydeddus Edward Rodney ym 1845 bu iddynt un mab a thair merch.
Gyrfa wleidyddol
golyguEtholwyd Owen i'r senedd am y tro cyntaf fel aelod Torïaidd etholaeth Penfro ym 1828 gan dal y sedd hyd 1838, roedd ei dad yn aelod dros y Sir trwy gydol yr un cyfnod. Prin oedd ei gyfraniadau i'r senedd yn y cyfnod hwn a phan oedd yn cyfrannu tueddai dilyn llinell ei dad.
Yn etholiad cyffredinol 1838 collodd Syr James Graham, Prif Arglwydd y Llynges ei sedd yn Swydd Cumberland a mynnodd Syr John Owen bod Hugh yn ymneilltuo o'i sedd er mwyn caniatáu i Graham dychwelyd i'r senedd. Yn etholiad cyffredinol 1841 penderfynodd Syr James sefyll yn etholaeth Dorchester; penderfynodd Syr Hugh sefyll eto i geisio ennill ei hen le yn ôl. Roedd Syr John yn wynebu gwrthwynebiad cryf yn etholaeth Sir Benfro pan benderfynodd John Cambell, Is Iarll Emlyn a mab iarll Cawdor ei fod o am sefyll dros a Sir, heb obaith o ariannu ymgyrch cyfatebol i un yr Is-Iarll penderfynodd Syr John, hefyd, sefyll dros y fwrdeistref; y tad fu'n fuddugol.
Yn etholiad 1857 penderfynodd Syr John i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn hytrach na Cheidwadol a bu'n cynrychioli Penfro fel Rhyddfrydwr hyd ei farwolaeth ym 1861. Ar farwolaeth Syr John safodd Syr Hugh fel ymgeisydd Rhyddfrydol gan ennill y sedd mewn ornest yn erbyn ymgeisydd Ceidwadol, Thomas Charlton-Meyrick gan gadw'r sydd hyd iddo gael ei drechu gan Charlton-Meyrick ym 1868.[2]
Rhwng 1872 a 1889 bu'n gweithio fel Aide-de-camp i'r Brenhines Victoria.
Marwolaeth
golyguBu farw yn Barnes, Llundain. Etifeddwyd y farwnigaeth gan ei fab Hugh Charles Owen.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ History of parliament online OWEN, Hugh Owen (1803-1891), of Williamston and Llanstinan, Pemb. [1] adalwyd 25 Ion, 2016
- ↑ Williams, William Retlaw; The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 25 Ion, 2016
- ↑ "DEATHOFSIRHUGHOWENOWEN - The Aberdare Times". Josiah Thomas Jones. 1891-09-19. Cyrchwyd 2016-01-25.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Hensleigh Allen |
Aelod Seneddol Penfro 1826 – 1838 |
Olynydd: James Robert George Graham |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Syr John Owen |
Aelod Seneddol Penfro 1861 – 1868 |
Olynydd: Thomas Charlton-Meyrick |