Syr John Owen, Barwnig 1af

gwleidydd Cymreig

Roedd Syr John Owen, Barwnig 1af (John Lord gynt) (1776 - 6 Chwefror 1861) yn wleidydd Torïaidd / Ceidwadol Gymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaethau Penfro a Sir Benfro am gyfanswm o dros hanner canrif.[1]

Syr John Owen, Barwnig 1af
Ganwyd1776 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 1861 Edit this on Wikidata
Caerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Tori Edit this on Wikidata
TadJoseph Lord Edit this on Wikidata
MamCorbetta Owen Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Phillips, Mary Frances Stephenson Edit this on Wikidata
PlantSyr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig, Ellen Owen, Charlotte Owen, Alice Maria Owen, Eliza Owen, Mary Owen, William Owen Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd John Lord yn ail fab i Joseph Lord a Corbetta née Owen, ei wraig, yr oedd hi'n ferch i'r Is Gadfridog John Owen ac yn wyres i Syr Arthur Owen 3ydd Barwnig Owen o Orielton. Roedd John Lord yn gefnder i Syr Hugh Owen, 6ed Barwnig ei ragflaenydd fel AS Penfro, pan fu ef farw ym 1809 etifeddodd John Lord ei ystad a newidiodd ei enw i Owen.[2]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen, lle raddiodd BA ym 1804 ac MA ym 1807.

Ym 1836 ymladdodd Syr John Owen gornest (duel) yn Neuadd Gumfreston ger Dinbych y Pysgod gyda William Richards, cyn maer y dref a glwyfwyd yn wael yn y digwyddiad, buont yn ymladd gyda phistolau. Dyma oedd y duel hysbys diwethaf i'w ymladd yng Nghymru[3]

Teulu golygu

Bu'n briod dwywaith. Ym 1800 aeth ar ffô i Gretna Green i briodi Charlotte Phillips merch y Parch John Lewes Phillips, Llangynin. Bu iddynt 1 mab a phedair merch; bu hi farw ym 1829. Ym 1830 priododd Mary Frances Stephenson merch Edward Stephenson o Farley Hill, Berkshire; bu iddynt tri mab a ddwy ferch.[4]

Gyrfa golygu

Cafodd ei alw i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1800 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr am gyfnod byr hyd benderfynu ymuno â Phrifysgol Rhydychen.

Roedd Owen yn berchen ar lofa Pwll yr Ardd, Landshipping. Roedd siafft y pwll yn ymestyn i ddyfnder o 67 llath gyda llawer o'r gweithfeydd yn rhedeg o dan ddyfroedd aberol afonydd y Cleddau.

Ar 14 Chwefror 1844, sylwodd y glowyr bod mwy o ddŵr nag arfer yn tryddiferu i'r pwll gan hynny fe wnaethant adel eu gwaith ond cawsant eu gorfodi yn ôl gan eu meistri gyda'r sicrwydd bod popeth yn iawn; awr yn ddiweddarach chwalodd dwr yr afonydd i mewn i'r gwaith gan foddi 40 o lowyr. Mae cofrestr y sawl a gollwyd yn enwi rhai o'r colledigion gyda'u henwau llawn ee Benjamin Heart ond eraill fel dim ond Miner a chyfenw ee Miner Thomas, Miner Wilkins a 3 fel Unknown Miners. Credir bod y rhain yn fenywod a phlant dan deg oed a oedd yn gweithio yn y pwll yn groes i gyfraith.[5]

Gyrfa wleidyddol golygu

Etholwyd Owen am y tro cyntaf fel Aelod Seneddol Torïaidd Penfro ar farwolaeth ei gefnder Syr Hugh Owen gan dal y Sir hyd at 1812. Yn etholiad 1812 penderfynodd ymladd sedd y Sir, a oedd yn cael ei ystyried fel swydd llawer mwy mawreddog ac yn fodd o brofi mae teulu Orielton oedd brif deulu Sir Benfro, fe lwyddodd i ennill y sedd ond ar gost ariannol sylweddol. Er mwyn cadw'r sedd yn ddiwrthwynebiad daeth i drefniant gyd Chwig amlycaf y sir John Cambell, Iarll Cawdor y byddai ei gynrychiolydd yn cael sefyll heb wrthwynebydd Torïaidd ym Mwrdeistref Penfro, parodd y cytundeb ar gyfer etholiadau cyffredinol 1818 a 1820[2] ond cafodd ei dorri yn etholiad 1826 pan safodd mab syr John, Hugh Owen Owen, dros y Torïaid yn y fwrdeistref; er hynny llwyddodd Syr John i gadw ei sedd yn y Sir yn ddiwrthwynebiad hyd etholiad cyffredinol 1841 pan benderfynodd John Cambell, Is Iarll Emlyn a mab iarll Cawdor ei fod o am sefyll dros a Sir, heb obaith o ariannu ymgyrch cyfatebol i un yr Is-Iarll penderfynodd ail ymgeisio am y fwrdeistref, gan sefyll yn erbyn ail ymgeisydd Ceidwadol, Hugh ei fab. Enillodd Syr John y frwydr gan ddal ei afael ar y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei farwolaeth.

Etholiad cyffredinol 1841: Penfro
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Syr John Owen 282 50.3
Ceidwadwyr Hugh Owen Owen 184 32.8
Rhyddfrydol J M Child 95 16.9
Mwyafrif 90
Y nifer a bleidleisiodd 49.5
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Gyrfa gyhoeddus golygu

Yn ogystal â bod yn Aelod Seneddol bu Syr John yn ddeiliad ar nifer o swyddi cyhoeddus eraill. Bu'n Faer Penfro ym 1813 a Maer Dinbych y Pysgod ym 1821. Bu yn llywodraethwr ar gestyll Hwlffordd ym 1821 ac Aberdaugleddau ym 1823. Bu'n Is Lyngesydd Sir Benfro o 1812 hyd ei farwolaeth ac yn Arglwydd Raglaw Sir Benfro o 1824 hyd ei farwolaeth.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref Taynton House, Sir Gaerloyw yn 85 mlwydd oed a chafodd ei weddillion eu claddu ym mynwent plwyf Taynton[6].

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur arlein OWEN (TEULU), Orielton, sir Benfro [1] adalwyd 15 Rhagfyr 2015
  2. 2.0 2.1 The History of Parliament online OWEN, Sir John, 1st bt. (1776-1861), of Orielton, Pemb. [2] adalwyd Rhagfyr 15 2015
  3. May & John (1994). A Chronicle of Welsh Events. Abertawe: Christopher Davies Cyf. tud. 67. ISBN 0-7154-0723-6.
  4. "DEATH OF SIR JOHN OWEN BART MP - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1861-02-15. Cyrchwyd 2015-12-15.
  5. Amgueddfa Rhithwir Sir Benfro Landshipping [3] adalwyd Rhagfyr 15 2015
  6. Taynton Village Sir John Owen (born John Lord) Baronet M.P. [4][dolen marw] adalwyd 15 Rhagfyr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Hugh Owen
Aelod Seneddol Penfro
18091812
Olynydd:
Thomas Picton
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Phillips
Aelod Seneddol Sir Benfro
18121841
Olynydd:
Is iarll Emlyn
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Robert George Graham
Aelod Seneddol Penfro
18411861
Olynydd:
Syr Hugh Owen Owen
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Iarll Uxbridge
Arglwydd Raglaw Sir Benfro
1824 - 1861
Olynydd:
Arglwydd Kensington