Thomas Charlton-Meyrick
Roedd y Cyrnol Syr Thomas Charlton-Meyrick, (14 Mawrth 1837 – 31 Gorffennaf 1921) yn filwr a thirfeddiannwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Penfro rhwng 1868 a 1874[1]
Thomas Charlton-Meyrick | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Charlton 14 Mawrth 1837 Castell Apley |
Bu farw | 30 Gorffennaf 1921 |
Man preswyl | Bangeston |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Siryf Sir Benfro |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | St. John Chiverton Charlton |
Mam | Jane Sophia Meyrick |
Priod | Mary Rhoda Hill |
Plant | Rachel Cicely Meyrick, Dora Rhoda Meyrick, Alice Maude Meyrick, Eva Mary Meyrick, Sir Frederick Charlton Meyrick, 2nd Baronet, St. John Meyrick, Rowland Francis Meyrick, Herbert Cheverton Meyrick, Walter Thomas Meyrick |
Gwobr/au | Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Cydymaith Urdd y Baddon |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Thomas Charlton yng Nghastell Apley, Hadley, Swydd Amwythig, yn fab i St John Chiverton Charlton, bonheddwr, a Jane Sophia Meyrick ei wraig. Roedd Jane yn ferch ac etifedd i Thomas Meyrick ystâd Bush, Doc Penfro. Ym 1858, etifeddodd Thomas Charlton ystâd ei dad-cu pan gyrhaeddodd 21in mlwydd oed (oedran dyfod yn oedolyn ar y pryd)[2], a newidiodd ei enw i Charlton-Meryck trwy drwydded frenhinol yn unol â gofynion ewyllys ei dad cu[3]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.
Ym 1860 priododd Mary Rhoda merch y Cyrnol F. Hill. Bu iddynt pum mab a thair merch.
Gyrfa
golyguWedi etifeddu ystâd ei dad cu bu'n gweithio am weddill ei oes fel tirfeddiannwr. Roedd tiroedd ystâd y Bush yn cynnwys y tiroedd yr adeiladwyd dociau Penfro a phentref Doc Penfro arnynt. Wedi marwolaeth ei frawd ym 1873 daeth i feddiant ystadau'r teulu yn Swydd Amwythig hefyd. Gan fod Charlton-Meyrick wedi etifeddu ystâd y Bush, trwy gyfran ei fam, ar y dybiaeth na fyddai'n etifeddu ystâd ei dad, Castell Apley, yn Swydd Amwythig; bu achos llys gan berthnasau oedd yn hawlio nad oedd ganddo hawl i gadw'r Bush ar ôl etifeddu Castell Apley. Methodd yr achos a chadwodd Charlton-Meyrick perchenogaeth o'r ddwy ystâd[4].
Bu'n gwasanaethu fel Cyrnol ac yna fel Cyrnol Anrhydeddus ar 3ydd bataliwn Catrawd Troedfilwyr Ysgafn Swydd yr Amwythig, gan wasanaethu gyda'r gatrawd yn yr Iwerddon ac yn ystod Rhyfeloedd y Boer yn Ne Affrica[5].
Gwasanaethodd fel ynad heddwch ar feinciau Sir Benfro a Swydd Amwythig
Gyrfa Wleidyddol
golyguWedi marwolaeth Syr John Owen AS Ceidwadol Penfro ym 1861 dewiswyd Charlton-Meyrick i amddiffyn y sedd yn yr isetholiad canlynol. Bu'n aflwyddiannus a chollwyd y sedd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol (mab y diweddar aelod) Syr Hugh Owen Owen.
Safodd Charlton-Meyrick eto yn etholiad cyffredinol 1868 gan lwyddo i gipio Penfro yn ôl i'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad cyffredinol canlynol, etholiad 1874, collodd y sedd i'r Rhyddfrydwyr. Codwyd deiseb i herio tegwch yr etholiad, ond fe'i ataliwyd ychydig ddyddiau cyn dyddiad yr achos llys i'w hystyried [6]
Safodd eto yn etholiad cyffredinol 1880 gan fethu yn ei ymgais i adfer ei sedd.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Benfro ym 1877
Anrhydeddau
golyguYm 1880 cafodd Charlton-Meyrick ei greu'n Farwnig[7]. Fe'i gwnaed yn Gymrawd Urdd y Baddon (CB) ym 1898[8] gan gael ei ddyrchafu yn Farchog Cadlywydd o’r Urdd (KCB) ym 1910[9].
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Castell Apley, yn 84 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys Wellington, Swydd Amwythig[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Charlton-Meyrick, Col Sir Thomas, (14 March 1837–31 July 1921), JP, DL. WHO'S WHO & WHO WAS WHO. 2007-12-01. Oxford University Press. Adalwyd 28 Rhagfyr 2017
- ↑ "MAJORITY OF THOMAS CHARLTON ESQ - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1858-04-09. Cyrchwyd 2017-12-28.
- ↑ The London Gazette 9 Ebrill 1858 rhif: 22125 Tudalen:1793 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
- ↑ "LOCALLAWCASE - The Tenby Observer Weekly List of Visitors and Directory". Richard Mason. 1874-02-12. Cyrchwyd 2017-12-29.
- ↑ "SHROPSHIRE MILITIA TO GO TO EGYPT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-12-29. Cyrchwyd 2017-12-29.
- ↑ "WITHDRAWAL OF THE PEMBROKE ELECTION PETITION - The Western Mail". Abel Nadin. 1874-04-30. Cyrchwyd 2017-12-29.
- ↑ The London Gazette 30 Ebrill 1880 Rhif:24840 Tudalen:2786 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
- ↑ The London Gazette 14 Mawrth 1898 Rhif:26947 Tudalen:1686[dolen farw] adalwyd 29 Rhagfyr 2017
- ↑ The London Gazette 23 Mehefin 1910 Rhif:28388 Tudalen:4476 adalwyd 29 Rhagfyr 2017
- ↑ Birmingham Daily Gazette 03 Awst 1921
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Hugh Owen Owen |
Aelod Seneddol Penfro 1868 – 1874 |
Olynydd: Syr Edward James Reed |