Trydydd albwm y gantores Gymraeg Lleuwen Steffan yw Tân. Rhyddhawyd yr albwm ym Mawrth 2011 ar y label Gwymon.

Tân
Clawr Tân
Albwm stiwdio gan Lleuwen
Rhyddhawyd Mawrth 2011
Label Gwymon
Cynhyrchydd Lleuwen Steffan a Vincent Guerin

Tân oedd albwm gyntaf y gantores o Riwlas ers pedair blynedd yn dilyn Penmon (2007). Yma mae wedi llwyddo i greu perthynas gerddorol gyda’r cerddor o Lydaw Vincent Guerin. Y ddeuawd sy’n chwarae pob offeryn ar y casgliad Cymraeg a Llydaweg, gan gynnwys nifer o offer y gegin mae’n debyg.

Dewiswyd Tân yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth

golygu

Mae Tân yn chwareus ac yn fentrus - mae sŵn cyfoethog y gitâr a llais Lleuwen yn ddeuawd perffaith. Mae'r albwm yn gyfanwaith, fel gwrando ar rywun yn adrodd stori ac iddi sawl pennod.

—Casia Wiliam, Y Selar

Cyfeiriadau

golygu