Rhiwlas

pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd

Pentref yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Rhiwlas[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Arfon tua 4 milltir i'r de o Fangor.

Rhiwlas
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanddeiniolen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1708°N 4.1283°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH578658 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Rhiwlas (gwahaniaethu).

Y pentrefi agosaf yw Pentir a Rhyd-y-groes i'r gogledd, Deiniolen i'r de, Waun a Penisa'r-waun i'r de-orllewin, a Llanddeiniolen i'r gorllewin. I'r de a'r dwyrain o'r pentref cyfyd rhagfryniau Eryri yn cynnwys Moelyci (410m) a Moel Rhiwen (391m).

Mae'r pentref yn cynnwys ysgol gynradd, neuadd bentref a pharc chwarae.

Ceir bryngaer gynhanesyddol a elwir yn "Castell" hanner milltir i'r dwyrain o Riwlas ger y B4547.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU