Tân ar y Comin

nofel gan T. Llew Jones

Nofel antur am y Sipsiwn i blant a phobl ifanc gan T. Llew Jones yw Tân ar y Comin. Fe'i cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer yn 1975. Ym 1976 enillodd y llyfr Wobr Tir na n-Og. Cafwyd argraffiad newydd yn 1993, 2003 a 2015.[1]

Tân ar y Comin
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurT. Llew Jones
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1975 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg i blant a phobol ifanc
Argaeleddmewn print
ISBN9781785620850
Erthygl am y nofel yw hon. Am y ffilm sy'n seiliedig arni gweler Tân ar y Comin (ffilm).

Cyfieithwyd y nofel i'r Saesneg gan yr awdur a Carol Byrne Jones dan y teitl Gipsy Fires (Pont Books, 1994).

Disgrifiad byr

golygu

Cawn hanes anturiaethau Tim, un o blant y sipsiwn, a adewir yn amddifad ar gomin Glanrhyd wedi i'w daid farw, heb ddim ond carafán, caseg, a'r ebol a anwyd ar y noson y bu farw'r hen ŵr.

Cynyrchwyd ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, sef Tân ar y Comin, a ddarlledwyd ar S4C.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 4 Medi 2017