Carol Byrne Jones
Athrawes, darlithydd, cynhyrchydd a bardd o Gymraes oedd Carol Byrne Jones (31 Gorffennaf 1943 – 29 Tachwedd 2023). Bu'n gynhyrchydd y ffilm Tân ar y Comin ymysg rhaglenni eraill.[1]
Carol Byrne Jones | |
---|---|
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1943 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 29 Tachwedd 2023 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, darlithydd, bardd |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Carol yn Nyffryn Teifi. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Prifysgol Caerdydd. Wedi gadael y coleg aeth yn drefnydd drama i Sir Frycheiniog.
Gyrfa
golyguBu'n darlithio yn Nulyn ac wedi cyfnod yn dysgu Drama a Saesneg yn Aberteifi aeth i weithio i HTV yng Nghaerdydd a'r Wyddgrug, "gan ddod y fenyw gyntaf i gyfarwyddo rhaglenni i'r cwmni". Wedi hynny ffurfiodd cwmni ei hun, Y Wennol Cyf, a gynhyrchodd y ffilm Tân ar y Comin.
Hefyd cyfieithodd y nofel i'r Saesneg, gyda'r teitl Gipsy Fires. Aeth i ddarlithio ar ffilm a drama i Brifysgol Llambed gan wneud gradd doethuriaeth yn y maes. Bu hefyd yn Ddarlithydd Cynhyrchu yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bywyd personol
golyguRoedd ganddi ddau fab - Huw a Conor a brawd, Ken Jones.
Roedd yn byw yn Aberporth. Bu farw yn 80 mlwydd oed yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi gwaeledd byr. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1 o'r gloch ddydd Llun, 18 Rhagfyr.[2]
Teyrngedau
golyguDywedodd y bardd a'r ymgyrchydd Philippa Gibson - "Roedd hi'n ffrind i gymaint o bobl... Fe fyddai hi mor frwdfrydig am bob dim - yn enwedig gyda phapur bro Y Gambo. Roedd hi'n golygu y papur yn aml a wastad yn fodlon camu mewn os nad oedd neb arall ar gael.
"Byddai hi wrth ei bodd yn nosbarth cynganeddu Ceri Wyn Jones a dosbarth trafod cerdd Idris Reynolds, roedd hi'n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ceredigion ac yn aelod selog o dîm Talwrn y Beirdd Glannau Teifi."
Dywedodd y Prifardd Idris Reynolds - "Roedd ganddi gyfoeth o wybodaeth - yn enwedig ym maes llenyddiaeth. Roeddwn i'n falch iawn o'i chael yn y dosbarth trafod llenyddiaeth.
Talwyd teyrnged iddi gan Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C: "Mae'n siŵr y bydd cenedlaethau o wylwyr S4C yn cofio ffilm Tân ar y Comin, clasur gafodd ei seilio ar nofel T. Llew Jones.
"Mae'r ffilm yn enghraifft wych o waith Carol Byrne Jones, ffilm sy'n dal i gael ei gwerthfawrogi hyd heddiw."[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Carol Byrne Jones: Cofio menyw oedd yn 'ffrind i gymaint o bobl'". BBC Cymru Fyw. 2023-12-11. Cyrchwyd 2023-12-12.
- ↑ "The obituary notice of Carol Ann Byrne JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-12.