Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstralia yn cynrychioli Awstralia yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Awstralia (FFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FFA yn aelodau o gonffederasiwn pêl-droed Asia (AFC) ers gadael conffederasiwn pêl-droed Oceania (OFC) yn 2006.
Mae'r Socceroos wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bedwar achlysur. Maent wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Oceania bedair gwaith cyn symud i chwarae yn Asia.