Tîm pêl-droed cenedlaethol Camerŵn
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Camerŵn yn cynrychioli Nigeria yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Camerŵn (Ffrengig: Fédération Camerounaise de Football) (FCF), corff llywodraethol y gamp yn Camerŵn. Mae'r FCF yn aelodau o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF).
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Perchennog | Fédération Camerounaise de Football |
Gwladwriaeth | Camerŵn |
Gwefan | https://fecafoot-officiel.com/lions-indomptables/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Les Lions Indomptables (llewod anorchfygol) wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar saith achlysur - mwy nag unrhyw wlad arall yn Affrica - a'r tîm cyntaf o Affrica i gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 1990 cyn colli yn erbyn Lloegr.
Mae Camerŵn wedi ennill Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica ar bedwar achlysur a hefyd wedi cipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Sydney 2000.