Tŷ Uned Gernyweg

 Rhybudd! Mae'n bosibl nad yw pwnc yr erthygl hon yn un digon pwysig iddo haeddu lle ar Wicipedia.
Os na ellir profi fod y pwnc o ddigon o ddiddordeb i fod yn destun erthygl wyddoniadurol, fe all yr erthygl gael ei dileu. Os ydych yn credu fod yr erthygl yn werth ei chadw rhowch eich rhesymau dros hynny ar ei dudalen sgwrs.
Mae'r nodyn yma yn rhoi'r erthygl yn y categori Amlygrwydd.


Math o dŷ yw Tŷ Uned Gernyweg a adeiladwyd yn ystod Rhaglen dai y Weinyddiaeth Waith yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yn yr 1950au. Ynghŷd â thai BISF maent ymysg y mwyaf cyffredin o'r tai parhaol a adeiladwyd yn ystod y rhaglen.

Tai uned gernyweg yn Barnsley. Mae'r tŷ ar y dde wedi ei diweddaru gyda wal friciau, tra bod y tŷ ar y chwith yn ei chyflwr gwreiddiol.

Adeiladwyd llawr gwaelod y tai hyn o baneli concrît a gafodd eu castio o flaen llaw, er bod y llawr uchaf a'i tho trawiadol wedi'i adeiladu ar ffrâm bren fwy traddodiadol. Cyfeiriar at y dull hwn fel Precast Reinforced Concrete yn Saesneg. Defnyddiwyd dull tebyg i adeiladu tai Airey.

Oherwydd y dull a ddefnyddiwyd i'w hadeiladu, maent yn cael eu hystyried yn fath o adeilad ansafonol yn y DU; yn eu cyflwr gwreiddiol maent hefyd wedi eu cofrestru yn ddiffygiol o dan Ddeddf Tai 1985 oherwydd problemau gyda'r paneli concrît yn dirywio a chracio dros amser.

Mae nifer fawr o enghreifftiau i'w gweld yng Nghymru mewn llefydd mor amrywiol â Thalacharn a Chaerdydd.