Tŷ BISF
Math o dŷ yw'r BISF a adeiladwyd ar hyd a lled Prydain rhwng 1946 ac 1952 fel rhan o raglen dai y Weinyddiaeth Waith ar ôl yr Ail Ryfel Byd[1], gyda nifer ohonynt yng Nghymru. Daw'r enw ar y dyluniad o enw'r cwmni a ffurfiwyd i'w hadeiladu: y British Iron and Steel Federation. Dyluniwyd y tŷ gan y Pensaer Frederick Gibberd, a fyddai'n mynd ymlaen i ddylunio Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl.
Tra bod y mwyafrif o dai ym Mhrydain wedi eu hadeiladu o waliau o friciau sy'n cynnal toeon a lloriau, mae tŷ BISF wedi'i gynnal gan ffram ddur sydd wedi'i chuddio (yn y dyluniad gwreiddiol) gan blatiau dur ar y llawr uchaf a chan mesh dur wedi'i rendro ar y llawr gwaelod. Roedd y toeon gwreiddiol o alwminiwm neu sement gydag asbestos ynddo, ond mae nifer fawr o'r rhain wedi eu disodli gan doeon modern bellach.
Roedd y BISF yn un o nifer o dai anaferol i gael eu dylunio a'u hadeiladu fel ymateb i'r diffyg tai yn dilyn yr ail ryfel byd. Drwy ddefnyddio dur roedd modd eu creu o flaen llaw mewn ffatrioedd a'u cludo i'r safle, roedd modd adeiladu BISF yn gyflym iawn a hynny gan ddefnyddio gweithlu heb y sgiliau arbennig y byddai eu hangen i adeiladu tŷ confensiynol (megis bricwyr neu seiri coed). Fodd bynnag, roedd cost ariannol adeiladu'r tai yn debyg i dŷ confensiynol o'r un faint.
Er bod y BISF yn dyddio o'r un cyfnod â pre-fabs dros-dro megis yr AIROH, ac yn defnyddio rhai o'r un dechnolegau a thechnegau adeiladu, strwythur parhol oedd y BISF erioed ac mae'r mwyafrif helaeth o'r 30,000 a gafodd eu hadeiladu yn dal i sefyll. O'i gynnal a'i gadw yn briodol (fel gydag unrhyw dŷ), dylai tŷ BISF sefyll am yr un hyd ag unrhyw dŷ arall. Ynghŷd â thai Uned Gernyweg a thai Airey, tai BISF oedd un o'r tai parhaol mwyaf cyffredin a adeiladwyd o dan raglen dai y Weinyddiaeth Waith.
Mae enghreifftiau i'w gweld yng Nghymru yng Nghaerdydd, Casnewydd, Pontypridd, y Rhondda, Abertawe, Aberdâr, Merthyr Tydfil, Glynebwy, Cwmbrân a Wrecsam ymysg trefi eraill.[2] Yn Lloegr a'r Alban mae tai BISF i'w gweld yn Llundain, Bryste, Glasgow a nifer fawr o ddinasoedd a threfi eraill. Tai pâr yw mwyafrif y tai BISF, a'r holl rhai yng Nghymru yn unol â'r dyluniad gwreiddiol. Fodd bynnag, roedd modd cyfuno unedau gyda'i gilydd i ffurfio tai rhes o unrhyw hyd, a gwnaethpwyd hynny mewn ambell leoliad. Tai cyngor oedd pob un BISF yn wreiddiol gan eu bod wedi eu hadeiladu ar ran y llywodraeth; fodd bynnag mae nifer nawr wedi'u prynu gan unigolion; mae tai BISF heddiw yn aml wedi'u hadnewyddu gydag ystod o ymddangosiadau ac arddulliau.
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-24. Cyrchwyd 2017-08-11.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-02. Cyrchwyd 2017-08-11.