Thomas Iorwerth Ellis

addysgydd ac awdur
(Ailgyfeiriad oddi wrth T. I. Ellis)

Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro, oedd Thomas Iorwerth Ellis a gyhoeddai wrth yr enw T. I. Ellis (19 Rhagfyr 189920 Ebrill 1970).

Thomas Iorwerth Ellis
Ganwyd 19 Rhagfyr 1899 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Ebrill 1970 Edit this on Wikidata (70 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth cofiannydd, sgolor clasurol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Tad Thomas Edward Ellis Edit this on Wikidata
Priod Mari Ellis Edit this on Wikidata
Plant Meg Elis Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Llundain yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd.

Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.

Bywyd personolGolygu

Priododd Mary Gwendoline Headley (Mari Ellis) yn Ebrill 1949 a cawsant ddau o blant - Margaret Ann (sef Meg Elis, ganwyd 1950) a Rolant (ganwyd 1953). Bu farw yn ei gartref yn Aberystwyth.

Ganwyd ei wraig Mari ar 21 Gorffennaf 1913 yn Dylife a roedd yn llyfrgellydd yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, Aberystwyth. Ysgrifennodd mewn sawl cylchgrawn a cyhoeddodd tri nofel. Cefnogodd waith ei gŵr gyda Undeb Cymru Fydd ac yn dilyn ei farwolaeth, golygodd nifer o'i lyfrau ar gyfer eu cyhoeddi. Bu farw hithau yn yn Aberystwyth ar 25 Ionawr 2015.[1]

LlyfryddiaethGolygu

Cyfres Crwydro Cymru
  • Crwydro Ceredigion
  • Crwydro Maldwyn
  • Crwydro Meirionnydd
  • Crwydro Mynwy
  • Crwydro Sir y Fflint
Eraill
  • The Development of Higher Education in Wales (1935)
  • Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
  • Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.
  • Dilyn Llwybrau (1967). Ysgrifau
  • Life of Ellis Jones Griffith (1969)
  1. [1]