Undeb Cymru Fydd
- Am enghreifftiau eraill o'r enw Cymru Fydd gweler y dudalen gwahaniaethu.
Cymdeithas ddiwylliannol wladgarol oedd Undeb Cymru Fydd. Fe'i sefydlwyd yn 1941 pan unwyd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig a Phwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru i ffurfio mudiad newydd gyda'r bwriad o hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg a bod yn ffocws a chyfrwng cydweithredu i'r perwyl hwnnw. Mae'r enw yn adlais o enw'r mudiad gwladgarol cynharach Cymru Fydd.
Gweithgaredd Diwylliannol
golyguPrif weithgarwch yr undeb oedd pwyso ar lywodraeth Prydain i fabwysiadu polisïau mwy ffafriol a datganoliedig i Gymru a'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg a darlledu. Yn ogystal cyhoeddid cyfres o lyfrau a chylchgronau fel Cofion Cymru ar gyfer y Cymry yn y lluoedd arfog adeg yr Ail Ryfel Byd.
Ffurfiwyd Cymdeithas Lyfrau yn 1943; mabwysiadodd hon y gwaith o gyhoeddi'r cylchgrawn addysgol Yr Athro, 1951-c. 1970, a chyhoeddi calendrau poblogaidd. O 1970 ymlaen cyhoeddodd Yr Athro gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru.
Penodwyd Pwyllgor ar y cyd rhwng Undeb Cymru Fydd a'r Eglwysi i fynd i'r afael â dadleoliad gweithwyr ffatri yn sgil gwasanaeth cenedlaethol y boblogaeth sifil yn ystod y rhyfel.
Gweithgaredd Gwleidyddol
golyguUn o ymgyrchoedd cyntaf y mudiad oedd y frwydr i warchod Mynydd Epynt ac ardaloedd eraill yng Nghymru rhag cael eu meddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ond methiant fu.
Ym 1950 cynhaliwyd cynhadledd arbennig a roes y sbardun i gychwyn yr Ymgyrch dros Senedd i Gymru. Ar 1 gorffennaf 1955 ymgasglodd pob plaid wleidyddol yn Llandrindod (yn enw Undeb Cymru Fydd) lle cytunwyd i gaslu deiseb genedlaethol a fynnai Hunan-Lywodraeth i Gymru. Prif arweinwyr yr ymgyrch oedd Megan Lloyd George, merch David Lloyd George, T. I. Ellis a Syr Ifan ab Owen Edwards. Casglwyd deiseb yn cynnwys 250,000 ac fe'i trosglwyddwyd i Lywodraeth y DU gan Megan yn Ebrill 1956.
Collodd yr undeb ei ffordd yn y 1960au gyda'r cynnydd mewn cenedlaetholdeb Cymreig gwleidyddol a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1962).
Bu'r Undeb yn ymgyrchu dros ysgolion Cymraeg, sefydlu Pwyllgor Addysg, a thros welliant yn y ddarpariaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg yn y cyfryngau[1].
Trefniant
golyguRoedd trefniadaeth Undeb Cymru Fydd yn cynnwys Cyngor a Phwyllgor Gwaith, a phwyllgorau yn mynd i'r afael â phynciau penodol (addysg, radio, llyfrau, ac Eglwysi Cymru). At lefel lleol, etifeddodd 13 cangen gan Bwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru. Cynhaliai'r mudiad Gynhadledd Flynyddol, fel arfer ym Mehefin neu Orffennaf. Ar ôl 1967, roedd yna baneli arbenigol yn ymdrin â phynciau'n ymwneud â merched, addysg, a'r teledu.
Yn 1956, sefydlwyd Pwyllgor y Merched, ynghyd â chylchlythyr, Llythyr Ceridwen, 1956 -ca. 1967.
Ym Medi 1965, cafodd yr undeb ei ail-drefnu ac fe'i gofrestrwyd fel elusen addysgiadol, yn hyrwyddo addysg Gymraeg i oedolion, ac o hynny ymlaen roedd Ymddiriedolaeth Undeb Cymru Fydd, yn derbyn ceisiadau am gymorth ariannol.
Ataliodd pob gweithgaredd ym Mawrth 1970. a diddymwyd yr elusen yn 2000.
T. I. Ellis (1899 - 1970), mab y gwleidydd Thomas Edward Ellis (1859 - 1899) a chwaraeodd ran bwysig yn yr hen Gymru Fydd, oedd ysgrifennydd y mudiad hyd 1967. Gweithiodd Tom Jones fel trefnydd llawn amser, 1944-1949, fel y gwnaeth Gwilym Tudur, [1966]-[1968].
Cyflwynwyd cofnodion yr undeb i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1997[1].
Darllen pellach
golygu- T. I. Ellis, Undeb Cymry Fydd (1960)
- William George, Cymru Fydd (Lerpwl, 1945)
- R. Gerallt Jones, A Bid for Unity (1971)
- Papurau Undeb Cymru Fydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Papurau Undeb Cymru Fydd - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-05-07.