TV5MONDE

(Ailgyfeiriad o TV5)

TV5MONDE (hen enw: TV5) yw'r rhwydwaith teledu rhyngwladol ar gyfer y byd Ffrangeg, neu francophone.

TV5MONDE
Math
rhwydwaith teledu
Sefydlwyd2 Ionawr 1984
PencadlysParis
PerchnogionSefydliad Clyweledol Genedlaethol
Gwefanhttps://www.tv5monde.com/, https://latina.tv5monde.com/, https://apac.tv5monde.com/fr, https://apac.tv5monde.com/en, https://apac.tv5monde.com/ja, https://apac.tv5monde.com/ko, https://usa.tv5monde.com/en, https://europe.tv5monde.com/de, https://europe.tv5monde.com/fr, https://europe.tv5monde.com/en, https://europe.tv5monde.com/ro, https://europe.tv5monde.com/nl, https://www.tv5unis.ca/, https://maghreb-orient.tv5monde.com/fr, https://maghreb-orient.tv5monde.com/en, https://maghreb-orient.tv5monde.com/ar, https://afrique.tv5monde.com/, https://www.tv5.org/ Edit this on Wikidata

Daw'r rhan fwyaf o raglenni'r sianel o rwydweithiau mawr prif-ffrwd y byd Ffrangeg, yn enwedig France Télévisions a Group TF1 o Ffrainc, RTBF o Wlad Belg, TSR o'r Swistir, Radio-Canada a rhwydweithiau TVA yng Nghanada. Yn ogystal â newyddion rhyngwladol, mae TV5MONDE yn darlledu ffilmiau Ffrangeg, rhaglenni dogfen a rhaglenni cylchgrawn cerddoriaeth. Mae'r rhif "5" yn yr enw yn cynrychioli nifer y rhwydweithiau a'i sefydlodd. Mae'r sianel yn dal i ddarlledu dan yr enw TV5 ar y rhwydwaith domestig yng Nghanada, fel TV5 Québec-Canada. Cynhyrchir TV5 Québec-Canada ym Montréal, a gweddill y sianeli ym Mharis dan yr enw TV5MONDE.

Sianeli

golygu

Ers 2006, darlledir wyth olygiad rhanbarthol ar sawl rhwydwaith cêbl a lloeren:

Gwefan

golygu

Yn ogystal â bod y rhwydwaith teledu mwyaf yn y byd Ffrangeg, mae gan TV5MONDE wefan sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwyd fideos newyddion, rhaglenni dogfen a cherddoriaeth. Fe'i cyfrifir yn un o'r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd francophone.

Dolenni allanol

golygu