Tabernacl Llanelli
capel yr Annibynwyr yn Llanelli
Capel yn nhref Llanelli yw Tabernacl Llanelli. Fe'i cynlluniwyd gan John Humphrey, sef y pensaer a fu'n gyfrifol am godi Tabernacl Treforys. Sefydlwyd Tabernacl Llanelli ym 1875 gan garfan sylweddol o aelodau Capel Als, sef mam-eglwys Annibynwyr Llanelli. Bu'r pregethwyr Gwylfa Roberts a Gwyndaf yn weinidogion yma.
Math | eglwys, capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanelli |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.6824°N 4.16373°W |
Cod post | SA15 3DB |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |