Taenlen
Rhaglen gyfrifiadurol sy' gymorth i storio a rhoi trefn ar ddata yw taenlen (Saesneg: Spreadsheet); gwnâ hynny ar ffurf tabl. Datblygodd taenlenni o ffurf bapur, analog, a ddefnyddiwyd mewn cyfrifeg (accountancy) ers y 1970au.[1][2]
Mae'r rhaglen yn gweithio drwy archwilio data a fewnbynnir i gelloedd y daenlen; gall y wybodaeth ym mhob cell fod ar ffurf testun, rhif neu ganlyniad i fformiwla sy'n cyfrifo gwerthoedd yn otomatig. Gall y fformiwlâu hyn gymryd gwybodaeth o gelloedd eraill (neu daenlenni eraill) cyn trin a thrafod y wybodaeth o fewn y fformiwla, a'i allbynmu mewn cell arall.[3][4][5]
Ar wahân i fedru cyflawni swyddogaethau rhifyddeg sylfaenol a ffwythiannau mathemategol, mae taenlenni modern hefyd yn darparu is-raglenni sy'n unedau ffwythiannol parod ar gyfer cynorthwyo gweithgaredd sy'n ymwneud ag arian ac ystadegau. Ceir mynegiant amodol hefyd yn ogystal â ffwythiannau sy'n trosi testun, rhif a hyd yn oed lluniau neu graffeg e.e. "Os yw'r tymheredd (y rhif yng nghell A14) yn uwch na 21, yna rhodder y testun "Diffodd" yng nghell A32."
LANPAR, a ddyfeisiwyd yn 1969, oedd y daenlen gyntaf i weld golau dydd, ac fe'i gweithiwyd oddi fewn i gyfrifiaduron enfawr mainframe.[6] Y daenlen gyntaf ar y microgyfrifiadur (neu'r 'cyfrifiadur personol') oedd VisiCalc, a fu'n allweddol i boblogeiddio'r Apple II.[7] Ar y system weithredol DOS, Lotus 1-2-3 oedd y mwyaf poblogaidd yn y 1980au. Yna, tua 1995, daeth Excel yn fwy poblogaidd na Lotus, gan iddo fod yn rhan o'r pecyn 'Office' gan Microsoft, ac o fewn ychydig o flynyddoedd roedd y rhaglen daenlenni mwyaf poblogaidd, drwy'r byd.[8][9][10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "spreadsheet". merriam-webster.com. Merriam-Webster. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
- ↑ American Heritage Dictionary of the English Language (arg. 5th). Houghton Mifflin Harcourt Publishing Company. 2011.
A software interface consisting of an interactive grid made up of cells in which data or formulas are entered for analysis or presentation.
- ↑ "spreadsheet". WhatIs.com. TechTarget. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
- ↑ Beal, Vangie. "spreadsheet". webopedia. QuinStreet. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
- ↑ "Spreadsheet". Computer Hope. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-21. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
- ↑ Higgins, Hannah (2009-01-01). The Grid Book (yn Saesneg). MIT Press. ISBN 9780262512404.
- ↑ Charles Babcock, "What's The Greatest Software Ever Written?", Information Week, 11 Aug 2006. Accessed 25 Mehefin 2014
- ↑ Lewis, Peter H. (1988-03-13). "The Executive computer; Lotus 1-2-3 Faces Up to the Upstarts". NYTimes.com. The New York Times Company. Cyrchwyd 2012-10-14.
Release 3.0 is being written in the computer language known as C, to provide easy transportability among PCs, Macs and mainframes.
- ↑ "Rivals Set Their Sights on Microsoft Office: Can They Topple the Giant? –Knowledge@Wharton". Wharton, University of Pennsylvania. Cyrchwyd 2010-08-20.
- ↑ "spreadsheet analysis from winners, losers, and Microsoft". Utdallas.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-23. Cyrchwyd 2010-08-20.