Tafarn yr Alarch Wen, Trefynwy
Perthyn i'r 18g mae Gwesty'r Alarch Wen, (neu Westy'r Alarch Wen), Heol yr Eglwys, Trefynwy, Sir Fynwy.[1] Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw. Cofrestwyd yr adeilad fel Gradd II* ym Mehefin 1952.[2]
| |
Math |
coaching inn ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Trefynwy ![]() |
Sir |
Trefynwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.8128°N 2.71497°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
HanesGolygu
Mae'r adeilad ar dri llawr, gyda ffenest bwaog ar y llawr isaf ac mae wyneb yr adeilad allan o stucco gwyn, sy'n dyddio nôl i'r 19g.[3] Gwyddom fod yma dafarn gynharach yn 1709 o'r enw "Yr Alarch a'r Gwalch" ond erbyn 1774, peidiwyd a defnyddio'r Gwalch a bathwyd yr enw The White Swan Inn.[1] Adferwyd yr adeilad yn 1839, wedi i'r stryd (Heol y Priordy) gael ei ddatblygu. Mae'r fynedfa'n ddigon mawr ar gyfer coets o Heol y Priordy a cheir mynedfa arall, llai, o Heol yr Eglwys.
Mae'n debygol iawn fod yr Alarch Wen wedi'i basio i lawr yr oesau oddi wrth Mary de Bohun, a roddodd enedigaeth i Harri V, brenin Lloegr yng Nghastell Trefynwy.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 Records relating to the White Swan, Monmouth Archifwyd 2012-05-23 yn y Peiriant Wayback., archiveWales, adalwyd Ionawr 2012
- ↑ White Swan, British Listed Buildings, adalwyd 21 Ionawr 2012
- ↑ Tafarn yr Alarch Wen. Gwefan Coflein., Royal Commission on Ancient and Histoc Monuments of Wales, adalwyd 20 Ionawr 2012