Tafarndy'r Golden Lion, Wrecsam

tafarn yn Wrecsam


Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Golden Lion.

Tafarndy'r Golden Lion
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam, Offa Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr81 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0452°N 2.99211°W Edit this on Wikidata
Cod postLL13 8HP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion
Mae'r tafarndy'n sefyll ar y Stryt Fawr, Wrecsam (ochr y gogledd)
Tafarndy'r Golden Lion, Wrecsam

Lleoliad golygu

Cyfeiriad y Golden Lion yw Rhifau 12-13, Stryt Fawr. Mae'r darfan yn sefyll ar ochr ogleddol y Stryt Fawr, rhwng dau adeilad pwysig a mawreddog, sef Marchnad y Cigyddion a'r adeilad Banc Midland (rhifau 14-15).

Hanes golygu

Mae'r adeilad yn dyddio yn ôl i'r 16eg ganrif. Tŷ eithaf pwysig oedd o yn yr 17eg ganrif. Ail-adeiladwyd y tŷ yn rhannol yn yr 18fed ganrif.

Yn wreiddiol roedd y tŷ yn gartref i'r teulu Pulford, ond erbyn 1700 roedd o'n cael ei ddefnyddio fel tafarn. Dilynodd cyfnod o ddefnydd fel siopau, cyn i'r adeilad ddod yn dafarn eto tua 1740. [1]

Disgrifiad golygu

Mae gan yr adeilad ddwy ran – rhan flaen tri llawr a rhan gefn un llawr a hanner. Mae pasej yn rhedeg ar hyd yr adeilad, yn gyfagos i'r bar.[1]

Mae mynedfa i rwydwaith o dwneli o dan y ddinas trwy frad-ddôr ym mlaen y dafarn. [2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "The Golden Lion Public House, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.
  2. "First pictures of Wrexham's mysterious underground tunnels". Dailypost.co.uk. Cyrchwyd 7 Chwefror 2023.