Rhifau 14-15, Stryt Fawr, Wrecsam
Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhifau 14-15, Stryt Fawr.
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Parc Caia, Wrecsam |
Sir | Rhos-ddu, Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 80.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.04523°N 2.99186°W |
Cod post | LL13 8HP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae rhifau 14-15 Stryt Fawr yn sefyll ar ochr ogleddol y stryd, ger y gyffordd â Stryt Yorke a Stryt Caer. Mae'r adeilad yn rhan o grŵp o adeiladau mawreddog, efo gwesty'r Wynnstay Arms ar Stryt Yorke, yr adeilad Alliance Assurance (rhif 29 Stryt Fawr) a Marchnad y Cigyddion.
Hanes
golyguAdeiladwyd rhifau 14-15 Stryt Fawr yn 1910-1912 gan Woolfall & Eccles yn ar arddull Palazzo ar gyfer y Banc Gogledd a Deheudir Cymru (“North & South Wales Bank”). Roedd cynllun gwreiddiol Woolfall & Eccles ar gyfer adeilad yn yr arddull Gothig, ond cafodd y darlun ei wrthod gan y Banc Midland, a oedd wedi cymryd drosodd y banc yn y cyfamser. [1]
Roedd y safle wedi cael ei gwerthu ar gyfer y banc yn 1905. Ar gyfer ei swyddfa yn Wrecsam, roedd y banc wedi defnyddio nifer o swyddfeydd gwahanol ar y Stryt Fawr, yn cynnwys rhif 29, yr adeilad Alliance Assurance. [2]
Yn 1908, unodd y Banc Gogledd a Deheudir Cymru â Banc y Midland. O ganlyniad mae'r adeilad yn cael ei adnabod hefyd fel “the Midland Bank building”. Roedd yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio fel banc tan 1999. Ers 1999, mae'r adeilad wedi bod yn dafarn. [2] [3]
Disgrifiad
golyguMae gan yr adeilad, sydd yn yr arddull palazzo Baróc, ffasâd o dywodfaen melyn gyda phileri gwenithfaen ar y llawr gwaelod. [4]
Uwchben un o ddrysau'r adeilad mae'n dal yn bosib darllen yr arysgrif “Midland Bank Chambers”.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Booker, John Michael Lloyd (1984). The Architecture of Banking: A Study of the Design of British Banks from the 18th Century to Modern Times - Volume One. University of York, Institute of Advanced Architectural Studies. tt. p. 195.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ 2.0 2.1 "Buildings of Wrexham: High Street (North)". Buildings of Wrexham. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-06. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "The North and South Wales Bank Wrexham - J D Wetherspoon". jdwetherspoon.com. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.