Tafarndy'r Royal Oak, Wrecsam
Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Royal Oak.
Y Royal Oak, Stryt Fawr, Wrexham (ochr ddeheuol) | |
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Offa, Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 81.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.04502°N 2.99245°W |
Cod post | LL13 8HY |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae'r Royal Oak yn sefyll ar ochr ddeheuol y Stryt Fawr, ymhlith nifer o adeiladau hanesyddol, fel Rhif 29 (yr adeilad Alliance Assurance), Rhiff 33 (yr hen Fanc Martins) a Rhif 43 (yr hen Fanc Cynilion Ymddiriedolwyr).
Hanes
golyguAdeiladwyd Rhif 35 Stryt Fawr yn 1912/13 fel tafarn i amnewid adeilad ffrâm bren hŷn. [1] Rhwng 1984 a 1992 roedd y dafarn yn cael ei adnabod fel yr Embassey, ond ar ôl hynny cafodd hi ei ail-enwi fel y Royal Oak. [2]
Disgrifiad
golyguMae'r Royal Oak yn adeilad tri llawr. Mae'r llawr gwaelod o dywodfaen coch, gyda chyntedd addurnedig a ffenestri mwliwn. Ar y lloriau uchaf mae elfennau neo-Duduraidd.[1] Mae'r dafarn yn hir a chul – dim ond pedair llath a hanner o led. Mae'r perchennog presennol wedi adnewyddu'r dafarn. [3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Royal Oak Public House, Formerly The Embassey, High Street, Wrexham". Coflein. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Clwyd FHS - Historic Wrexham Inns". Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd. 12 Medi 2013. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Royal Oak, Wrexham - Joules Brewery". joulesbrewery.co,uk. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2022.