Rhif 33, Stryt Fawr, Wrecsam
Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhif 33, Stryt Fawr.
Lleoliad
golyguMae Rhif 33 Stryt Fawr yn sefyll ar ochr ddeheuol y stryd, yng nghanol y ddinas. Mae'r adeilad yn rhan o res o adeiladau hanesyddol gyda chymeriad masnachol rhwng Stryt yr Eglwys a Stryt Yorke.
Hanes
golyguAdeiladwyd Rhif 33 Stryt Fawr yn 1907 gan y penseiri Grayson & Ould o Lerpwl ar gyfer y Bank of Liverpool. [1] Roedd y banc wedi agor cangen yn Wrecsam yn 1898. [2]
Yn 1918, prynodd Bank of Liverpool Martin's Bank, ond ar ôl y cydsoddiad cadwodd y sefydliad newydd yr enw Martins Bank. [3] Erbyn 1951, cangen Wrecsam oedd cangen hynaf y banc yng Nghymru. [2]
Yn 1969, cafodd Martins Bank ei brynu gan Barclays Bank. [3] Yn fwy diweddar, roedd Rhif 33 Stryt Fawr yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd.
Disgrifiad
golyguMae Rhif 33 Stryt Fawr yn adeilad tri llawr yn yr arddull Palazzo. Adeiladwyd yr llawr gwaelod o feini nadd gwyn, tra bod y lloriau uchaf o dywodfaen coch. Mae rhes o golofnau o dywodfaen coch ar ffasâd yr adeilad uwchben y llawr gwaelod. [1]
Mae'r adeilad yn rhan o grŵp o adeiladau hanesyddol o arddulliau gwahanol, sy'n cynnwys yr adeilad Allied Assurance (Rhif 29), tafarndy'r Royal Oak a'r hen fanc Cynilion Ymddiriedolwyr (“Trustee Savings Bank”) (Rhif 43).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Listed Buildings - Full Report - Heritage Bill Cadw Assets - Reports". Cadw. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "11-72-90 Wrecsam". Martins Bank's branches in Wales. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "Beginning of the End - the Martins Bank story". Martins Bank. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2022.