Tail

carthion anifeiliaid neu ddynol ar gyfer ffrwythlonni'r tir

Cyfeirir at tail fel arfer i gyfeirio at garthion anifail dof (gwartheg, ceffylau, ieir, defaid fel rheol) gyda gweddillion ei gweliau gwellt mewn beudy neu stabl sydd wedi dadelfennu gan eplesiad a'i ddefnyddio drachefn fel gwrtaith i wella'r tir a'r cnwd a dyfir.[1] Gall tail fod yn hylifog neu mwy solet, ond fel arfer meddylir am tail fel deunydd sydd ag ansawdd mwy solet. Cyfeirir at dail hylifog fel slyri.

Amaethwr yn hel tail i wrteithio'r tir, Yr Almaen, 1953

Gwahanol fathau o dail golygu

Defnyddir y term "guano" ar gyfer tail sy'n dod o adar gwylltion neu ystlum mewn ogof.

Gellir defnyddio carthion dynol ac ar ôl ei drin caiff ei alw'n "dŵr du" gan ei ddefnuddio fel dyfrhad ar gyfer cnydau neu i wella ansawdd tir.

Defnyddir y term 'tail gwyrdd' ("green manure") ar gyfer planhigion sy'n tyfu'n sydyn ac yn ychwanegu maeth i'r pridd. Mae'r rhain yn cynnwys planhigion sy'n perthyn i deulu codlys (legumes) fel ffa a pys sy'n tyfu'n sydyn gan amlynci nitrogen o'r awyr i mewn i'w gwreiddiau ac yna'n ddwfn i'r pridd.[2]

Defnydd golygu

 
Tomen tail, Awstria 2009
  • Gwrtaith - defnyddir tail fel gwrtaith ar gyfer cynorthwyo tyfu cnydau ac ar gyfer gwella ansawdd tir. Ymysg y tail mwyaf cyfoethog mae tail dyfednod (ieir, colomennod) sy'n cynnwys elfennau maethlon fel nitrogen. Gall tail gynyddu bywiogrwydd meicro-organau'r pridd a safon y pridd gan ei wella ar gyfer storio dŵr a gwella ansawdd priddoedd tywodlyd a lleidiog.
  • Bionwy - gellir defnyddio tail ar gyfer creu ynni bionwy ar gyfer gwresogi neu drydan.

Cymraeg golygu

 
Tomeni tail gyda phibellau trin

Ceir yr enghraifft cofnodedig cynharaf o'r gair "tail" o'r 13g lle caiff ei ddefnyddio wrth gyfeirio ar arfer amaethu.[3] Y gair Llydaweg yw "teil". Defnyddir y gair "buarthdail" hefyd, er anfynych y clywir y term yma, bellach.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu