Mamaliaid sy'n gallu hedfan yw ystlumod (Chiroptera). Mae'r rhan fwyaf o ystlumod yn bwyta pryfed; mae rhywogaethau eraill yn bwydo ar ffrwythau, neithdar neu bysgod. Anifail nosol ydyw fel rheol. Mae'r ystlumod fampir o Dde America yn yfed gwaed. Ceir dros 900 o rywogaethau yn y byd, a cheir 16 rhywogaeth yn rheolaidd ym Mhrydain.

CymruGolygu

O'r 16 rhywogaeth o'r mamaliaid hedegog hyn ym Mhrydain cofnodwyd 12 ohonynt yng Nghymru yn cynnwys yr ystlum lleiaf, ystlum hirglust, ystlum mawr, ystlum Natterer, ystlum barfog, ystlum Brandt, ystlum y dŵr, ystlum pedol mwyaf, ystlum pedol lleiaf, ystlum du, ystlum adain lydan ac ystlum Leisler.

Mae Cymru, felly, yn gartref i rai o'r ystlumod mwyaf prin gwledydd Prydain: yr ystlum pedol mwyaf]], yr ystlum pedol lleiaf a'r ystlum du, sy'n rhywogaethau a warchodir gan ddedfau Ewropeaidd. Mae 10 safle yng Nghymru wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig fel rhan o rwydwaith 'Natura 2000' i ddiogelu cynefinoedd yr ystlumod anghyffredin hyn, a rheolir y cynefinoedd er mwyn amddiffyn y rhywogaethau gwahanol.

Ystlumod prin Cymru, a sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu gwarchod.

Yr ystlym lleiaf a'r hirglust yw'r mwyaf cyffredin ac yn ddibynnol iawn ar adeiladau i glwydo ynddynt. Ystlymod pedol yn brin iawn, a'u cadarnleoedd Ewropeaidd yn ogystal â Phrydeinig yng Nghymru a'r Gororau. Oherwydd i ystlymod yn gyffredinol brinhau yn arw yn ystod yr 20g maent oll dan warchodaeth gyfreithiol erbyn hyn.

Coelion cefn gwladGolygu

Yng Nghymru ystyrid gweld ystlymod yn arwydd o lwc dda a phriodas cyn pen y flwyddyn, ond yn anlwcus yn rhai ardaloedd os ehedent o gylch y pen. Roedd coel gyffredin - ond di-sail - y buasent yn mynd yn sownd yng nggwallt person neu eu bod yn arwydd o dywydd braf, os yn hedfan yn gynnar gyda'r nos.

  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am ystlum
yn Wiciadur.