Enw ar gasgliad o dair dogfen yw Tair Ffurf Undod, sef y Gyffes Felgig, Canonau Dort a Chatecism Heidelberg, sydd yn adlewyrchu credoau athrawiaethol Calfiniaeth gyfandirol ac a dderbynnir yn ddogfennau swyddogol gan lawer o eglwysi Calfinaidd.

Hanes golygu

 
Y synod a gynhaliwyd yn Dort

Rhwng 1618 a 1619, galwodd a chynhaliodd llywodraeth yr Iseldiroedd Synod Dort ar ran Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd. Cyfarfu cynrychiolwyr o'r Iseldiroedd, ynghyd â 27 o gynrychiolwyr Calfinaidd o wyth gwlad arall, yn y synod hwn, lle y crynhowyd eu barn gyfunol mewn dogfen o'r enw Canonau Dort.[1]

Ychwanegodd yr un synod y Canonau hyn at ddwy ddogfen arall yr arferai Eglwys yr Iseldiroedd eu defnyddio ar y pryd, sef Catecism Heidelberg (1563) a'r Gyffes Felgig (1561).[2]

Trwy wneud hyn, cesiai'r Synod:

  1. Ffurfioli eu dealltwriaeth o athrawiaeth Feiblaidd ar y Drindod, yr ymgnawdoliad, rhagordeiniad, cyfiawnhad a'r eglwys;
  2. Caniatáu i aelodau ymgynnull yn gytûn dros gredoau sylfaenol;
  3. Israddio rhai syniadau anhanfodol, megis safbwyntiau gwleidyddol, addysg ac yn y blaen, er mwyn atal eglwysi rhag ymhollti yn ddiangen. Mae'r Ffurfiau hefyd yn rhoi sail i ymdrechion eciwmenaidd sy'n ddibynnol ar eglwysi yn derbyn yr hanfodion sydd ynddynt.

Mae diben gwahanol i bob dogfen.

  • Ysgrifennwyd y Catecism ar ffurf cwestiwn ac ateb i help egluro athrawiaethau Beiblaidd i blant a newydd-ddyfodiaid i'r ffydd.
  • Mae'r Gyffes yn eglurhau gwahanol athrawiaethau Beiblaidd.
  • Cyfres o ymatebion technegol i ddadleuon diwinyddol penodol a godwyd gan yr Haerwyr Iseldiraidd yw'r Canonau.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu