Dogfen sy'n sail i athrawiaeth llawer o eglwysi Diwygiedig yw'r Gyffes Ffydd a adnabyddir fel arfer dan y teitl y Gyffes Felgig. Mae'r gyffes yn un o Dair Ffurf Undod yr Eglwys Ddiwygiedig,[1] sy'n parhau i fod yn safonau isradd swyddogol Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd.[2][3] Guido de Brès, pregethwr yn eglwysi Diwygiedig yr Iseldiroedd a fu'n ferthyr i'r ffydd yn 1567, oedd y prif awdur.[4] Ysgrifennodd De Brès y Gyffes Felgig gyntaf yn 1559.[5]

Tudalen deitl copi o 1566

Terminoleg

golygu

Mae'r ansoddair Belgig yn nheitl y gyffes yn dilyn y dynodiad Lladin o'r 17eg ganrif, Confessio Belgica, sydd yn cyfeirio at Gwledydd Isel i gyd, y gogledd a'r de, sef yr Iseldiroedd a Gwlad Belg heddiw.

Awduron a diwygiadau

golygu

Presbyteriad a Chalfiniad oedd De Brès,[6] ac roedd Cyffes Ffydd Ffrainc (1559) wedi dylanwadu ar ei destun cychwynnol. Dangosodd De Brès ddrafft ei gyffes i eraill, gan gynnwys Hadrian à Saravia, Herman Moded a Godfried van Wingen (Wingius). Diwygiwyd hi gan Franciscus Junius, a dalfyrrodd yr 16eg erthygl ac anfon copi i Genefa ac i eglwysi eraill i'w chymeradwyo. Fe'i cyflwynwyd i Felipe II, brenin Sbaen, yn 1562 yn y gobaith y byddai'n arwain at well triniaeth o'r Protestaniaid yn y Gwledydd Isel.[7] Yn 1566, diwygiwyd testun y gyffes mewn synod yn Antwerp ac fe'i mabwysiadwyd hi gan synodau cenedlaethol a gynhaliwyd yn ystod tri degawd olaf yr 16eg ganrif.[8]

Defnyddiwyd y Gyffes Felgig i ateb dadleuon yr Arminiaid a gododd yn ystod y ganrif ganlynol, er bod Arminius yn gwrthwynebu'r syniad y gellid ei defnyddio yn erbyn ei ddiwinyddiaeth ef.[9] Yn ogystal, ac yn groes i honiadau i'r gwrthwyneb, roedd Arminius yn arddel y Gyffes Felgig hyd nes ei farwolaeth ym mis Hydref 1609.[10][11] Cafodd y testun ei adolygu unwaith eto yn Synod Dort yn 1618–19 a'i gynnwys yng Nghanonau Dort ac fe'i derbyniwyd yn un o’r safonau athrawiaethol gofynnol i bob hendaur, diacon ac aelod o’r eglwysi Diwygiedig wedyn. Drafftiwyd y diwygiad hwn yn y Ffrangeg.

Cyfansoddiad

golygu

Mae'r Gyffes Felgig yn cynnwys 37 o erthyglau sy'n ymdrin ag athrawiaethau am Dduw (1–2, 8–13), yr Ysgrythurau (3–7), dynoliaeth (14), pechod (15), Crist (18–21), iachawdwriaeth (16–17, 22–26), yr Eglwys (27–36) a diweddafiaeth (37).

Argraffiadau a chyfieithiadau

golygu

Mae'r argraffiad Ffrangeg cyntaf yn dal i fodoli mewn pedwar argraffiad, dau o 1561 a dau o 1562.[12] Bu gorchymyn gan Synod Antwerp ym mis Medi 1580 i wneud copi o destun diwygiedig Junius ar gyfer ei archifau i'w lofnodi gan bob gweinidog newydd, ac ysytyrir ers hynny mai'r llawysgrif hon yw'r ddogfen ddilys. Gwnaethpwyd y cyfieithiad Lladin cyntaf o destun Junius gan Theodore Beza, neu dan ei gyfarwyddyd, ar gyfer yr Harmonia Confessionum (Genefa, 1581), ac ymddangosodd yn argraffiad cyntaf Corpus et Syntagma Confessionum (Genefa, 1612). Paratowyd ail gyfieithiad Lladin gan Festus Hommius ar gyfer Synod Dort yn 1618, ei ddiwygio a'i gymeradwyo yn 1619, ei gyfieithu i'r Saesneg a'i ddefnyddio wedyn gan yr Eglwys Ddiwygiedig yn America. Ymddangosodd yng Ngroeg yn 1623, 1653, a 1660 yn Utrecht.[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Horton 2011
  2. Cochrane 2003
  3. Latourette & Winter 1975
  4. Cochrane 2003
  5. Bangs, Carl (1998). Arminius: A Study in the Dutch Reformation. Eugene, OR: Wipf & Stock Publishers. tt. 100–01. ISBN 1-57910-150-X. OCLC 43399532.
  6. Latourette & Winter 1975, t. 763
  7. 7.0 7.1 Jackson 1952, t. 32
  8. Bangs 1961, t. 159
  9. Bangs 1997
  10. Bangs, Carl (1973). "Arminius as a Reformed Theologian". In Bratt, John H. (gol.). The heritage of John Calvin: Heritage Hall lectures, 1960-70. Grand Rapids, Michigan: Eerdmans. tt. 216–17. ISBN 0-8028-3425-6. OCLC 623481.
  11. Pinson, J. Matthew (2015). "Jacobus Arminius: Reformed and Always Reforming". Arminian and Baptist: Explorations in a Theological Tradition (yn Saesneg). Nashville, Tenn.: Randall House. tt. 8–10. ISBN 978-0-89265-696-7. OCLC 919475036.
  12. Gootjes 2007, Pennod 1

Ffynonellau

golygu