Mae Takarunga (Saesneg: Mount Victoria) yn 87 medr o uwchder, ac yn sefyll ar ochr ogleddol Harbwr Waitamata, Seland Newydd. Mae golygfeydd bendigedig dros yr harbwr at Auckland. Roedd pā (pentref) Maori ar y bryn, ac mae olion wedi goroesi. Yn hwyrach, datblygwyd safle milwrol, pan ddisgwylwyd ymosodiad o Rwsia. Mae un adeilad, 'Y Bwncer' yn gartref i glwb gwerin Devonport hyd at heddiw. Mae hefyd Canolfan Ysgrifennu Michael King ar y bryn, i hyrwyddo llenyddiaeth Seland Newydd.[1]

Takarunga
Mathllosgfynydd, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAuckland Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Uwch y môr87 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.8266°S 174.799°E Edit this on Wikidata
Map
Auckland o gopa Takarunga

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan visitdevonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-29. Cyrchwyd 2016-02-09.