Devonport, Seland Newydd
Mae Devonport yn un o faestrefi Auckland, Seland Newydd ar ochr ogleddol Harbwr Waitemata ac ar lethrau Takarunga. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd yn cyrraedd o Auckland, 12 munud i ffwrdd, ac yn mynd ymlaen at Ynys Waiheke. Enwyd Devonport ar ôl Devonport, Plymouth, ac mae'n gartref i Lynges Seland Newydd ac i'r amgueddfa y llynges ym Mae Torpedo.[1] Mae olion milwrol tanddaearol ar Ben y Gogledd.
Math | maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Auckland |
Sir | Auckland Region |
Gwlad | Seland Newydd |
Yn ffinio gyda | Stanley Point, Vauxhall |
Cyfesurynnau | 36.8317°S 174.7963°E |
Adeiladwyd 'Y Bwncer', safle rheoli milwrol, ar ben Takarunga, pan ddisgwylwyd ymosodiad o Rwsia ym 1891. Erbyn hyn, defnyddir yr adeilad gan glwb gwerin a chlwb canu gwlad.[2]
Hanes
golyguSefydlwyd pentre Maori yn y 14g. Roedd y safle'n ddelfrydol ar gyfer pysgota a thyfu kumara. Ar lan y môr mae cofeb i Waka Tainui, un o saith Waka (teithiau), sydd wedi dod â'r Maori o Hawaii i Seland Newydd.[3] Daeth mewnfudwyr o Ewrop yn 1840au, yn rhoi enw ‘Flagstaff’ i’r ardal ar ôl iddynt osod un ar ben Takarunga. [4]
Cludiant
golyguMae fferiau’n mynd rhwng Auckland a Devonport bob hanner awr. Mae’r siwrnai’n cymryd 12 munud, ac mae rhai ohonynt yn myynd ymlaen at Ynys Waiheke ac Ynys Rangitoto.[5]
Mae gwasanaethau bws yn cysylltu'r dref efo gweddill ochr gogleddol y harbwr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan visitdevonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-24.
- ↑ Gwefan Clwb Gwerin Devonport
- ↑ "Tudalen hanes Maori ar wefan visitdevonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-24.
- ↑ Gwefan Fullers
- ↑ "Gwefan Cyfeiriadur Devonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-19. Cyrchwyd 2018-04-30.