Talacharn (cwmwd)
Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Talacharn. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae'r rhan fwyaf o diriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin.
Enghraifft o'r canlynol | cwmwd |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gorweddai Talacharn yn ne-orllewin Cantref Gwarthaf ar lan Bae Caerfyrddin. Roedd yn ffinio â chantref Penfro i'r gorllewin, a chymydau Efelffre a Peuliniog i'r gogledd ac Ystlwyf a Phenrhyn i'r dwyrain.
Prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol oedd tref fechan Talacharn lle codwyd castell o bwys strategol sylweddol gan y Normaniaid, ar ôl iddynt gipio'r tir oddi ar Ddeheubarth. Roedd yna ganolfan eglwysig yn Llanddowror.