Taleithiau a thiriogaethau Awstralia

Mae taleithiau a thiriogaethau Awstralia yn adrannau gweinyddol ffederal yn Awstralia sy'n cael eu rheoli gan lywodraethau rhanbarthol. Y rhain yw'r ail lefel o lywodraethu rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau lleol.

Taleithiau a thiriogaethau Awstralia
Enghraifft o'r canlynolenw un tiriogaeth mewn gwlad unigol Edit this on Wikidata
Mathadministrative territorial entity of Australia, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Taleithiau a thiriogaethau Awstralia
Esbylygiad taleithiau Awstralian

Mae'r taleithiau yn endidau hunanlywodraethol, er nad oes ganddynt sofraniaeth lwyr. Mae ganddynt eu cyfansoddiadau eu hunain, yn ogystal â deddfwrfeydd, adrannau gweinyddol, a rhai awdurdodau sifil (e.e. barnwriaeth a heddlu).

Yn ymarferol mae'r tiriogaethau yn debyg iawn i'r taleithiau, ac yn gweinyddu polisïau a rhaglenni lleol. Fodd bynnag, maent yn israddol yn gyfansoddiadol ac yn ariannol i'r llywodraeth ffederal ac felly nid oes ganddynt wir sofraniaeth.

Mae gan Awstralia chwe thalaith a dwy diriogaeth.

Taleithiau Australia
Talaith Talfyriad Prifddinas Poblogaeth
(2021)[1]
Prif Weindog
 De Awstralia SA Adelaide 1,773,243 Peter Malinauskas
 De Cymru Newydd NSW Sydney 8,189,266 Dominic Perrottet
 Gorllewin Awstralia WA Perth 2,681,633 Mark McGowan
 Queensland QLD Brisbane 5,221,170 Annastacia Palaszczuk
 Tasmania TAS Hobart 541,479 Peter Gutwein
 Victoria VIC Melbourne 6,649,159 Daniel Andrews
Tiriogaethau Australia
Talaith Talfyriad Prifddinas Poblogaeth
(2021)[1]
Prif Weindog
 Tiriogaeth y Gogledd NT Darwin 246,338 Michael Gunner
 Tiriogaeth Prifddinas Awstralia ACT Canberra 432,266 Andrew Barr
Tiriogaethau eraill
Tiriogaeth Anheddiad mwyaf Poblogaeth
(2021)[1]
Gweinyddir gan
 Tiriogaeth Bae Jervis Jervis Bay Village 405  Tiriogaeth Prifddinas Awstralia
 Ynys Arglwydd Howe Ynys Arglwydd Howe 382  De Cymru Newydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Ystadegau amcangyfrifedig, Mehefin 2021: "National, state and territory population, June 2021" (yn Saesneg). Swyddfa Ystadegau Awstralia (Australian Bureau of Statistics). Mehefin 2021.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.