Tallinna Linnahall
Mae'r Tallinna Linnahall (Cymraeg: "Neuadd Dinas Tallinn"), ar lafar Linnahall; enw gwreiddiol Palas Diwylliant a Chwaraeon V.I. Lenin yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd) yn neuadd amlbwrpas ym mhrifddinas Estonia, Tallinn. Hon oedd y neuadd amlbwrpas fwyaf yn Estonia tan agor y Saku Suurhall ym mis Tachwedd 2001. Mae wedi'i leoli yn yr harbwr, ychydig y tu hwnt i furiau'r Hen Dref, ac fe'i cwblhawyd yn 1980. Mae'r lleoliad hefyd yn cynnwys hofrennydd a phorthladd bach.
Enghraifft o'r canlynol | multi-purpose hall, ice rink, neuadd gyngerdd |
---|---|
Label brodorol | Linnahall |
Dechrau/Sefydlu | 1980 |
Lleoliad | Kalamaja |
Perchennog | Tallinn City Government |
Yn cynnwys | Tallinn Linnahall Heliport |
Enw brodorol | Linnahall |
Rhanbarth | Dinas Tallinn |
Gwefan | http://www.linnahall.ee |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCwblhawyd y Linnahall ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1980 fel y V.I. Palas Diwylliant a Chwaraeon Lenin. Cynhaliwyd y gemau ym Mosgo, gyda'r cystadlaethau hwylio yn Tallinn.[1] Tallinn enillodd y fraint o gynnal y cystadlaethau hwylio wedi i Sant Petersburg (Leningrad fel y'i gelwid ar y pryd) a Riga (prifddinas Latfia) beidio ymgeisio am wahanol resymau.[2]
Mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel neuadd amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ers 1980. Yn ogystal â'r neuadd fawr (5000 o seddi),[1] roedd yn cynnwys llawr sglefrio iâ a chaffis amrywiol. Roedd arddangosfeydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd yng nghyntedd 6000m² y neuadd gyngerdd.
Cynlluniwyd y neuadd gan y penseiri o Estonia, Raine Karp a Riina Altmäe.[1] Roedd y ddau yn wynebu'r dasg anodd o gadw'r olygfa o Hen Dref Tallinn o lan y môr a pheidio â thorri ar draws y rheilffordd oedd yn arwain at y porthladd.
Ceisio ailbwrpasu
golyguBu dadl fywiog yn Estonia dros ddyfodol yr heneb bensaernïol enfawr. Roedd rhai am ei ddychmwel. Ond gwrthwynebwyd hyn gan benseiri Estonaidd ac yn 1997 pasiwyd deddef yn dweud bod rhaid i'r adeilad fel ag yr oedd (hynny yw, peidio dymchwel neu newid yr ymddangosiad). Yn 2003 cyflwynwyd hi i Ddinas Tallinn ond ceuwyd y neuadd gyngerdd yn 2010.[3]
Yn 2017 ceisiwyd creu cynlllun fyddai'n ei throsi’n ganolfan gynadledda a'i chadw Neuaddau Cyngerdd maint llawn o statws Ewropeaidd. Ymysg y defnyddwyr gobeithir denu i'r neuadd fyddai: cyngherddau jazz, roc, sioeau cerdd, theatr, syrcas, sioeau teledu a ffilm, a chynadleddau.[3] Mae'r adeilad yn dadfeilio ar hyn o bryd. Serch hynny, mae Linnahall yn fan cyfarfod poblogaidd i bobl leol a thwristiaid, gan fod ei do yn cynnig golygfa o'r Môr Baltig a'r ddinas.
O'i sefydlu yn 2002 hyd ei ddiddymu yn 2009, chwaraeodd clwb hoci iâ Tallinn Stars ei gemau cartref yn y neuadd.
Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2019, roedd y lleoliad yn stand-in ar gyfer tŷ opera yn Kyiv yn ystod ffilmio'r ffilm nodwedd Tenet.[4]
Erbyn 2024 doedd dal dim consensws na chefnogaeth glir dros beth i wneud gyda'r adeilad. Nododd podlediad 'Urbanist' gan Monocle Magazine, bod yr adeilad wedi bod yn ddiddefnydd am 14 mlynedd a bod nodweddion yn rhydu, bron "ôl-apotolyctaidd" ei naws. Nodwyd hefyd y broblem sylfaenol sefl bod yr adeilad gyda 5,000 o seddi, yn rhy fawr i ddinas Tallinn sydd â phoblogaeth o 400,000 (tua'r un maint â Chaerdydd ond heb y trefi mawrion o fewn 30 milltir iddi) a phoblogaeth Estonia ond oddeutu 1.3 miliwn.[5]
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Tallinna Linnahall
- Olympics 1980! Soviet Constructions for Olympic Regatta in Tallinn Cyflwyniad ffilm fer ar hanes y Tallinna Linnahall (2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Linnahall". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-23. Cyrchwyd 2018-02-10.
- ↑ "Olympics 1980! Soviet Constructions for Olympic Regatta in Tallinn". Sianel Youtube 'Tallinn Open'. 2020.
- ↑ 3.0 3.1 "Visioon" (yn Ewe). Gwefan Tallinna Linnahall. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2024.
- ↑ "Christopher Nolan's Tenet Begins Rehearsals As Cast Arrives In Estonia; Check Out Early Set Photos". Appocalypse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-30.
- ↑ "Tall Story Tallinna Linnhall, episode 436". Podledida Urbanist. 25 Tachwedd 2024.