Sglefrio iâ
Dull o symud yw sglefrio iâ, lle mae person yn ymlithro dros arwyneb iâ, gan ddefnyddio esgidiau sglefrio iâ â llafnau metel. Credir bod y gair Cymraeg "sglefrio" yn fenthyciad o'r Saesneg tafodieithol, "sclither, slether, slither." Ceir y cyfeiriad cofnodedig gyntaf yn y Gymraeg o'r gair "sglefrio" o 1861 yn Arfon ond ceir "sglerio" o 1831 yn nwyrain Sir Gâr.[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon |
---|---|
Math | chwaraeon rhew, skating, chwaraeon olympaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguMae hanes hir iawn i sglefrio iâ.[2]
Awgrymodd astudiaeth gan Federico Formenti o Brifysgol Rhydychen bod y ffurf gynharaf o sglefrio iâ wedi digwydd yn ne'r Ffindir tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl.[3]
Yn ôl pob tebyg, dyfeisiwyd esgidiau sglefrio iâ yn yr Iseldiroedd yn y 13g neu'r 14g, gyda llafn metel miniog iawn ar eu gwaelod er mwyn osgoi ffrithiant ag arwyneb yr iâ. Yn gyffredinol, mae esgidiau sglefrio cyfredol wedi aros yr un siâp.
Sglefrio fel camp
golyguDaeth sglefrio yn boblogaidd fel adloniant, cyfrwng trafnidiaeth a champ i'w gwylio yn ardal gwastatir y Fens yn nwyrain Lloegr i bobl o bob cefndir. Gweithwyr fyddai'n rasio, y rhan fwyaf ohonynt yn llafurwyr amaethyddol. Ni wyddys pryd y cynhaliwyd y gemau sglefrio cyntaf, ond erbyn dechrau'r 19g roedd rasys sglefrio wedi'i hen sefydlu ac adroddwyd canlyniadau'r gemau yn y wasg.[4] Datblygodd sglefrio fel camp ar lynnoedd yr Alban a chamlesi'r Iseldiroedd. Yn y 13g a'r 14g rhoddwyd pren yn lle asgwrn mewn llafnau sglefrio, ac ym 1572 cynhyrchwyd yr esgidiau sglefrio haearn cyntaf.[5] Pan rewai'r dyfroedd, cynhaliwyd gemau sglefrio mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled y Fens. Yn y gemau lleol hyn byddai dynion (neu weithiau merched neu blant) yn cystadlu am wobrau megis arian, dillad, neu fwyd.
Ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror 1879, bu i nifer o sglefrwyr proffesiynol Swydd Caergrawnt a Huntingdonshire gwrdd yn y Guildhall yng Nghaergrawnt a sefydlu'r National Ice Skating Association, y corff sglefrio iâ gyntaf yn y byd.[6]
Chwaraeon yn seiliedig ar sglefrio iâ
golyguMae yna nifer o chwaraeon sy'n seilio un o'u nodweddion ar sglefrio iâ, sef:
- Hoci iâ: chwaraeon tîm a chwaraeir ar yr iâ, gyda'r nod o sgorio goliau trwy gyflwyno cnap (math o ddisg neu dabled) i gôl y tîm sy'n gwrthwynebu, gan ei gicio â ffon.
- Bandy: chwaraeon tîm a chwaraeir ar rew, gyda ffyn, pêl fach a rheolau tebyg i rai hoci maes. Noder nad yw 'bandi' yr un peth â'r hen gêm Gymreig, bando.
- Sglefrio ffigwr ar iâ: camp a ymarferir yn y categori unigol (gwryw neu fenyw), parau neu grwpiau cymysg, cydamserol, sy'n cynnwys perfformio troadau, neidiau a symudiadau eraill ar yr iâ mewn ffordd artistig a rhythmig i guriad y gerddoriaeth .
- Ringette: Chwaraeon tîm sy'n cael ei chwarae ar iâ, lle'r nod yw sgorio goliau trwy saethu cnap i mewn i'r gôl arall gan ddefnyddio ffon hir heb lafn.
- Sglefrio sbîd ar rew: cystadleuaeth sy'n cynnwys rasys lle mae'r cyfranogwyr yn teithio pellteroedd penodol yn yr amser byrraf posibl. Rhai amrywiadau:
- Sglefrio sbîd trac byr
- Sglefrio sbîd Iâ Marathon
- Neidio baril - sglefrio yna llamu dros farilau
- Sglefrio Llychlynnaidd: mae'n weithgaredd hamdden sy'n gyffredin iawn yn y gwledydd Llychlynnaidd, fel Sweden, Norwy neu'r Ffindir, lle mae'r cyfranogwyr yn teithio pellteroedd hir gan sglefrio ar rew naturiol. Gelwir hefyd yn 'Tour Skating'.
- Fen Skating hefyd Sglefrio Camlas - y math gyntaf yn gynefinol i ardal y Fens yn nwyrain Lloegr, yr ail fath yn enwog yn Fryslân yn yr Iseldiroedd lle cynhelir yr Elfstedentocht - ras sglefrio ar y camlesi rhwng un ar ddeg o drefi Frysland pan fydd y camlesi wedi eu rhewi'n gorn.
Sglefrio yng Nghymru
golyguDim ond dau faes sglefrio pwrpasol sydd yng Nghymru ac, oherwydd hinsawdd cymharol fwyn y wlad, prin iawn yw'r hanes a thraddodiad o sglefrio ar ddyfroedd llonydd sydd wedi eu rhewi'n gorn.
Y ddau glos sglefrio yw:
- Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - dyma'r maes sglefrio gyntaf yng Nghymru, ac am flynyddoedd dyma oedd yr unig un. Gelwir ef hefyd ym Barc Sglefrio Aura Cymru.[7] Yma, yn 1974, y sefydlwyd Cymdeithas Cwrlo Cymru, sef corff gweinyddol y gamp gwrlo yng Nghymru. Caiff y ganolfan hefyd ei defnyddio fel safle hyfforddi i’r sêr sy’n cymryd rhan ar raglen deledu ITV, Dancing on Ice.
- Canolfan Iâ Cymru, Bae Caerdydd - safle aml-ddefnydd unigryw ac iddo ddau lawr sglefrio a seddi gwylio i dros 3,000 o bobl. Mae hefyd yn gartref i dîm hoci iâ'r Cardiff Devils, sy’n chwarae yng Nghynghrair Elît Hoci Iâ Prydain, sef y safon uchaf posib ar gyfer hoci iâ yn y Deyrnas Unedig.[8]
Ceir hefyd closau sglefrio dros dro yn rhai o ddinasoedd mwyaf Cymru dros gyfnod y gaeaf fel ffordd o ddod ag adloniant i bobl leol a hefyd denu pobl i siopa a gwario yn y dref dros gyfnod y Nadolig a'r Calan. Ymysg lleoliadau'r closau sglefrio dros dro mae:[9]
- Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Gŵyl y Gaeaf, Ynys y Barri
- Gŵyl y Gaeaf, Dinas Caerdydd
- Gŵyl y Gaeaf, Dinas Casnewydd ger Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru
Cynhaliwyd hefyd 'rinc iâ' yng Nghastell Caerffili am gyfnod.[10]
Oriel
golygu-
Bandy
-
Sglefrio ffigwr
-
Hoci iâ
-
Ringette
-
Sglefrio sbîd
-
Sglefrio Llychlynnaidd
-
Sglefrio iâ lawr allt
Fideos
golygu-
Sglefrwyr iâ ar Lyn Neusiedl.
-
Skating in Central Park (1900), ffilm mud un munud o hyd gan Frank S. Armitage (EYE Institiwt Ffilm yr Iseldiroedd).
-
Rhaglen ddogfen ar Bencampwriaeth y Byd Sglefrio i Ferched yn Helsinki yn 1971.
Dolenni allanol
golygu- [2] Cofnod yn Encyclopædia y Britannica, 1911
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sglefrio". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ van Voorbergen, Bert. "The virtual ice Skates museum - Ice skates and their history (1)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-27. Cyrchwyd 2006-09-18.[1] Archifwyd 2008-11-20 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Federico Formenti, Alberto E. M (2021). "The first humans travelling on ice: an energy-saving strategy?".CS1 maint: uses authors parameter (link)[dolen farw]
- ↑ Goodman, Neville; Goodman, Albert (1882). Handbook of Fen Skating. London: Longmans, Green and Co. OL 25422698M. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 June 2015. Cyrchwyd 15 March 2013.
- ↑ Greiff, James. "History of Ice Skating". Scholastic Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 December 2017. Cyrchwyd 26 February 2014.
- ↑ "The History of Long Track Speed Skating". NISA. 18 July 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 October 2014.
- ↑ "Parc Sglefrio". Gwefan Aura Cymru. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ "Sglefrio iâ yng Nghymru". Gwefan Croeso Cymru. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ "Sglefrio iâ yng Nghymru". Gwefan Croeso Cymru. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ "Rinc Iâ Castell Caerffili yn dychwelyd yn fwy ac yn well nag erioed". Gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. 2019.